Jump to content
‘Y pethau bach sy’n bwysig’ - meithrin perthnasoedd ymddiriedus gydag unigolion, teuluoedd a gofalwyr
Digwyddiad

‘Y pethau bach sy’n bwysig’ - meithrin perthnasoedd ymddiriedus gydag unigolion, teuluoedd a gofalwyr

Dyddiad
16 Mawrth 2026, 1.30pm i 3pm
Lleoliad
Arlein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut y gall camau gweithredu bach sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd greu newid ystyrlon. Byddwn ni'n edrych ar sut gall gweithwyr cymdeithasol, pobl sy’n defnyddio gwasanaethau, a’u gofalwyr weithio gyda’i gilydd fel partneriaid cyfartal, hyd yn oed o fewn cyfyngiadau gwaith cymdeithasol modern. Drwy enghreifftiau bywyd go iawn, strategaethau ymarferol, a thrafodaethau cydweithredol, bydd cyfranogwyr yn gadael gyda syniadau y gallan nhw eu defnyddio ar unwaith i gryfhau perthnasoedd a chynnal gwerthoedd craidd gwaith cymdeithasol.

Canlyniadau dysgu

Yn y sesiwn hon byddwn yn:

  • archwilio egwyddorion ymarfer sy'n seiliedig ar berthnasoedd a pham eu bod yn bwysig mewn gwaith cymdeithasol bob dydd
  • nodi’r ‘pethau bach’ sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i bobl a’u gofalwyr
  • tynnu sylw at y camau cadarnhaol y gallwn ni eu cymryd i wella ymarfer a chryfhau perthnasoedd
  • ystyried sut i weithio'n effeithiol ochr yn ochr â phobl a'u gofalwyr fel partneriaid cyfartal
  • myfyrio ar enghreifftiau bywyd go iawn i ysbrydoli gobaith a chymhelliant mewn ymarfer.

Siaradwyr

Archebwch eich lle