Jump to content
Gweminar: dechrau gyrfa mewn gofal preswyl i blant 
Digwyddiad

Gweminar: dechrau gyrfa mewn gofal preswyl i blant 

Dyddiad
26 Mawrth 2026, 12pm i 1pm
Lleoliad
Ar-lein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Ydych chi'n meddwl am ddechrau neu symud ymlaen â gyrfa mewn gofal preswyl i blant? Bydd y weminar hon yn rhoi'r holl wybodaeth ac ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch chi.

Ar gyfer pwy mae'r sesiwn hon

Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer unrhyw un sy'n meddwl am weithio ym maes gofal preswyl i blant, p'un a ydych chi'n newydd i'r sector neu eisoes â phrofiad.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn ni’n clywed gan bobl sy'n gweithio ym maes gofal preswyl i blant, gan gynnwys:

  • sut y gwnaethon nhw ddarganfod eu rôl a'u pwrpas
  • sut mae eu gwaith yn edrych o ddydd i ddydd
  • cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, datblygu a dilyniant.