Yn y sesiwn hon, byddwn ni’n edrych ar bwysigrwydd tosturi o ran gwella canlyniadau, llesiant staff a chreu diwylliant cadarnhaol o fewn sefydliad.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae’r gweithdy hwn ar gyfer arweinwyr presennol a’r rhai sydd â diddordeb mewn arwain ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.
Mae’r sesiwn yn arbennig o werthfawr ar gyfer:
- rheolwyr, arweinwyr tîm a goruchwylwyr
- ymarferwyr sy’n camu i rolau arwain
- arweinwyr sy'n profi pwysau, blinder emosiynol neu newid
- pobl sy'n gyfrifol am gefnogi lles staff a diwylliant tîm.
Cynnwys y sesiwn
Yn y gweithdy hwn, byddwn yn edrych ar ddeallusrwydd emosiynol fel sylfaen ymarferol ar gyfer arweinyddiaeth effeithiol sy’n canolbwyntio ar bobl.
Mae’r sesiwn hon yn gyfle gwych i:
- ddeall pum elfen deallusrwydd emosiynol: hunanymwybyddiaeth, hunanreoleiddio, cymhelliad, empathi a sgiliau cymdeithasol
- archwilio sut mae emosiynau yn rhoi gwybodaeth bwysig ar gyfer gwneud penderfyniadau, cyfathrebu a meithrin perthnasau
- dysgu ffyrdd o aros yn dawel a chadarn o dan bwysau
- datblygu sgiliau mewn empathi, cyfathrebu tosturiol a gosod ffiniau iach
- ystyried sut mae deallusrwydd emosiynol yn cefnogi diogelwch seicolegol, diwylliant tîm a llesiant ac yn helpu atal llosgi allan (burnout).