Mae'r sesiwn wybodaeth hon ar gyfer darparwyr dysgu sy'n darparu cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Ofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant.
Dim ond 20 o lefydd sydd ar gael ar gyfer pob digwyddiad a gallwn sicrhau un lle i bob darparwr dysgu. Mae croeso i chi gofrestru ail berson, ac os bydd mwy o lefydd ar gael, byddwn yn cynnig rhain os yn bosib.