Jump to content
Cyfres gweithdy: hunan-dosturi a llesiant
Digwyddiad

Cyfres gweithdy: hunan-dosturi a llesiant

Dyddiad
17 Mawrth 2026 i 31 Mawrth 2026, 9.45am i 11am
Lleoliad
Ar-lein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru a Sefydliad Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dyma gyfres o dri gweithdy i’ch helpu i ddeall pwysigrwydd hunan-dosturi a llesiant wrth weithio ym meysydd gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

Ar gyfer pwy mae’r gyfres hon

Mae’r gyfres hon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ym meysydd gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

Cynnwys y sesiwn

Sesiwn un: sylfeini hunan-dosturi a llesiant

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • dysgu beth yw hunan-dosturi, pam mae’n cefnogi llesiant a sut gall eich gwneud yn arweinydd gwell
  • archwilio egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol yn ôl Michael West a sut mae’n gysylltiedig â hunan-dosturi.


Sesiwn dau: llesiant ar waith

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • darparu sgiliau ymarferol i’ch helpu wrth ymateb i heriau
  • trafod ystyr llesiant yn y gweithle
  • dysgu sut gall straen a gorbryder effeithio ar y corff a’r meddwl
  • dysgu sgiliau a thechnegau i leihau straen a gorbryder.

Sesiwn tri: cymorth ymarferol i chi a’ch tîm

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • dysgu sut i asesu anghenion er mwyn cefnogi hunan-dosturi a llesiant yn y ffordd gorau
  • creu cynllun i gefnogi hunan-dosturi a llesiant chi a’ch tîm.

Dyddiadau

I gael y gorau o’r gyfres, rydyn ni’n eich annog i fynychu pob sesiwn.

  • 9.45am i 11am, 17 Mawrth
  • 9.45am i 11am, 24 Mawrth
  • 9.45am i 11am, 31 Mawrth.