Rydyn ni wedi diweddaru ein Codau Ymarfer Proffesiynol yn ddiweddar. Rydyn ni'n gwahodd chi i ymuno â ni ar gyfer sesiwn sydd wedi’i chynllunio i’ch helpu chi i deimlo’n hyderus wrth ddefnyddio’r Codau newydd yn eich gwaith o ddydd i ddydd.
Ar gyfer pwy mae'r sesiwn hon
Mae’r sesiwn hon ar gyfer pobl sy’n gweithio yng ngofal cymdeithasol yng Nghymru sy’n defnyddio’r Codau Ymarfer Proffesiynol yn eu gwaith.
Cynnwys y sesiwn
Yn ystod y sesiwn, byddwn ni'n esbonio’r prif newidiadau a’r hyn maent yn eu golygu i chi yn eich rôl o gefnogi pobl ledled Cymru. Ein nod yw darparu gwybodaeth glir ac ymarferol fel bod y Codau’n haws i’w deall a’u defnyddio.
Bydd hefyd amser ar gyfer cwestiynau. Os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei drafod, anfonwch eich cwestiynau atom ymlaen llaw at codau@gofalcymdeithasol.cymru fel gallwn ni sicrhau bod y sesiwn yn adlewyrchu’r hyn sydd bwysicaf i chi.
Ymunwch â ni i helpu meithrin eich hyder gyda’r Codau newydd ac i ddeall beth mae’r newidiadau’n ei olygu yn ymarferol.