Jump to content
Cefnogi ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau: gweithio â risg ac ansicrwydd
Digwyddiad

Cefnogi ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau: gweithio â risg ac ansicrwydd

Dyddiad
24 Mawrth 2026, 9am i 12pm
Lleoliad
Ar-lein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Yn y sesiwn hon, byddwn ni’n rhannu dulliau, tystiolaeth a syniadau i osgoi ymarfer sy’n osgoi risg.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon ar gyfer gweithwyr cymdeithasol gyda dealltwriaeth cryf o ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn ni’n archwilio:

  • pedrant (Ansicrwydd)Sicrwydd / (Anniogel)Diogel Barry Mason a sut gall wasanaethau, teuluoedd a’n pryderon effeithio ar ein chwilfrydedd
  • y goruchwyliwr mewnol: adlewyrchu ar ein safbwyntiau personol, proffesiynol a sefydliadol
  • pwysigrwydd recordio’r broses o wneud penderfyniadau
  • defnyddio asesiadau risg sy’n seiliedig ar gryfderau i lywio trafodaethau
  • defnyddio AI i gefnogi ein hymarfer.

Imogen Blood fydd yn arwain y sesiwn hon. Mae gan Imogen 20 mlynedd o brofiad yn darparu hyfforddiant sy’n ymwneud ag ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau a rheoli risg mewn ffordd bositif.