Bydd y sesiwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau yng nghyfraith iechyd meddwl a’r diweddariadau sydd i ddod i’r ddeddfwriaeth. Yn ystod y sesiwn, fe'ch anogir chi i gymryd rhan mewn trafodaethau am faterion polisi sy'n effeithio ar ymarfer, gan gynnwys effaith Gofal Cywir Person Cywir (Right Care Right Person) a rôl yr Heddlu o dan adran 136.
Mae’r gyfres o ddosbarthiadau meistr yn cynnyws tair gweminar dan arweiniad Neil Allen o 39 Siambrau Essex a LPS Law. Mae’r sesiynau’n cysylltu diwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl a’r newidiadau i’r Mesurau Amddifadedd o Ryddid (DoLS), ac yn dod i ben gyda sesiwn ar ôl-ofal adran 117.
Y tair sesiwn yw:
- Webinar 1: 9 Ebrill, 1pm i 3pm: Diwygiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl 2025 a’r Ddeddf 1983 – goblygiadau i ymarfer a diweddariadau cyfreithiol.
- Webinar 2: 30 Ebrill, 1pm i 3pm: Effaith newidiadau deddfwriaethol DoLS a’r cysylltiad â’r Ddeddf Iechyd Meddwl.
- Webinar 3: 6 Mai, 1pm i 3pm: Dyletswyddau ôl-ofal adran 117, asesu a chyflwyno.
Ar gyfer pwy mae'r sesiynau
Mae'r hyfforddiant hwn yn hyfforddiant arbenigol ar gyfer AMHPs, myfyrwyr AMHP a meddygon sydd â diddordeb.
Cynnwys y sesiynau
- Cyfraith iechyd meddwl, ymarfer, a’r goblygiadau posibl i ymarfer yr AMHP
- Rôl y Person Enwebedig
- Ystyriaethau o dan Adran 13
- Effaith ar blant a phobl ifanc
- Pwerau brys – y dirwedd (Adrannau 115, 4, 136, 135 (1 a 2) a chyfraniad yr heddlu.