Jump to content
Adeiladu gofal cysylltiedig: Helpu i lunio dyfodol rhannu gwybodaeth mewn gofal cymdeithasol - Llandudno
Digwyddiad

Adeiladu gofal cysylltiedig: Helpu i lunio dyfodol rhannu gwybodaeth mewn gofal cymdeithasol - Llandudno

Dyddiad
17 Mawrth 2026, 9.30am i 3pm
Lleoliad
Venue Cymru, Llandudno
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Ydych chi'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol? Os felly, rydyn ni am i chi ymuno â ni mewn sesiwn ryngweithiol, wyneb yn wyneb, wedi'i gynllunio i helpu i lunio sut y gellir defnyddio gwybodaeth a rennir i wella gofal a chymorth ledled Cymru. 

Bydd cinio a lluniaeth yn cael eu darparu.

Byddwn ni hefyd yn cynnal digwyddiad yng Ngwesty Leonardo, Caerdydd. Mae dim ond angen i chi fynychu un sesiwn.

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn

Rydyn ni'n chwilio am safbwyntiau gan ymarferwyr gofal cymdeithasol, rheolwyr, staff cymorth, timau diogelu, gweithwyr cymdeithasol, ac unrhyw un sy'n ymwneud â gofal pobl i'n helpu i wella’r canlyniadau i'r bobl rydych chi'n eu cefnogi ac i gael effaith gadarnhaol ar eich profiad yn y gwaith.

Cynnwys y sesiwn

Efallai eich bod wedi profi rhwystredigaethau oherwydd y diffyg gwybodaeth rydych chi wedi'i chael am berson o fewn eich gofal? Efallai bod hysbysiad rhyddhau o leoliad iechyd heb gynnwys gwybodaeth allweddol? Neu efallai y byddai gwybodaeth ychwanegol wedi cefnogi eich penderfyniadau?

Beth bynnag yw eich profiad gyda gwybodaeth a rennir, rydyn ni eisiau ei chlywed. Nid oes angen i chi ddod ag atebion (er ein bod yn eu croesawu os oes gennych chi rai).

Bydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau rhagarweiniol am y gwaith rydym yn ei gwneud i foderneiddio'r ffordd rydym yn defnyddio a rhannu gwybodaeth, ynghyd â gweithdai ymarferol lle gallwch rannu eich profiadau a'n helpu i archwilio atebion posibl.

Ni fydd angen unrhyw wybodaeth dechnegol ar gyfer y sesiynau ac maent yn addas i bawb.

Mae clywed lleisiau gwahanol yn allweddol, yn enwedig gan bobl nad ydynt fel arfer yn teimlo bod ganddynt gyfle i rannu.

Mae eich mewnwelediad a'ch profiad yn hanfodol i lunio system sy'n gweithio'n well i bobl Cymru. Edrychwn ymlaen at y posibilrwydd o'ch croesawu i un o'r sesiynau.