Mae Panel Ffitrwydd i Ymarfer a eisteddodd ar 1-3 Medi wedi canfod cyhuddiadau o anfon negeseuon amhriodol ar ap Kik Messenger yn erbyn Thomas Burgoyne, Rheolwr Gofal Plant Preswyl cofrestredig.
Canfu'r Panel fod nam ar addasrwydd presennol i ymarfer Thomas Burgoyne a gosododd Orchymyn Dileu sy'n golygu na fydd yn gallu gweithio yng Nghymru mewn rôl gofal cymdeithasol rheoledig.
Mae gan Thomas Burgoyne yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru