Mae Panel Ffitrwydd i Ymarfer a eisteddodd ar 21 - 24 Medi 2021 wedi canfod honiadau a brofwyd yn erbyn Rebecca Spencer, gweithiwr gofal plant preswyl cofrestredig, o dynnu a gyrru ffotograffau a gwybodaeth gyfrinachol ynghylch pobl ifanc heb awdurdod. Canfuwyd hefyd ei bod wedi cymryd rhan mewn ystod o weithredoedd ymosodol tuag at bobl ifanc ac wedi methu â datgan ei bod wedi cael ei diswyddo o weithio gyda chwmni wrth wneud cais i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Canfu'r Panel fod nam ar addasrwydd presennol i ymarfer Rebecca Spencer a gosod Gorchymyn Tynnu sy'n golygu na fydd hi'n gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol rheoledig yng Nghymru. Bydd enw Rebecca Spencer yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a’i roi ar y Rhestr o Bobl a Dynnwyd.
Mae gan Rebecca Spencer yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.