Tra'i fod wedi'i gofrestru fel Gweithiwr Gofal Cartref, ar 23 Tachwedd 2021 cafwyd Mark Weaver yn euog yn Llys Ynadon Llandudno o'r troseddau a ganlyn:
a. Gyrru cerbyd modur pan oedd cyfran o gyffur rheoledig penodedig, sef Cocên yn ei waed, yn fwy na'r terfyn penodedig
b. Gyrru cerbyd modur pan oedd cyfran o gyffur rheoledig penodedig, sef Delta-9-tetrahydocannabinol yn ei waed yn fwy na'r terfyn penodedig
c. Gyrru cerbyd modur pan oedd cyfran o gyffur rheoledig penodedig, sef Benzoylecgonine yn ei waed yn uwch na'r terfyn penodedig
O ganlyniad, cafodd Mark Weaver ei ddedfrydu ar 23 Tachwedd 2021 i orchymyn adsefydlu 20 diwrnod a 23 mis o waharddiad.