Jump to content
Lindsay Cook
Rôl cofrestredig
Gweithwyr Gofal Cartref
Canlyniad
Diddymu trwy Gytundeb
Lleoliad
N/A
Cyflogwr
Yn flaenorol Verytas Solutions Ltd
Math o wrandawiad
Ni gynhelir panel gan Bwyllgor - proses Diddymu trwy Gytundeb

Crynodeb o'r penderfyniad

Diddymu trwy Gytundeb

Golyga Diddymu trwy Gytundeb bod person cofrestredig yn medru ymgeisio i dynnu eu henw oddi ar y Gofrestr heb gael ei gyfeirio at Banel.

Medrai person cofrestredig ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod proses addasrwydd i ymarfer.

Nid yw ymgeisio i dynnu enw oddi ar y Gofrestr yn golygu fod hawl gan y person cofrestredig gael ei enw wedi ddiddymu, ond mae’n galluogi’r Gofal Cymdeithasol Cymru i ystyried a chytuno diddymiad mewn achosion priodol.

DATGANIAD O FFEITHIAU Y CYTUNWYD ARNYNT

Cyflwyniad

1. Cofrestrodd Ms Lindsay Cook ('Ms Cook') fel Gweithiwr Gofal Cartref gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar 11 Tachwedd 2019.
2. Roedd Ms Cook yn cael ei chyflogi fel Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref gan Verytas Solutions Ltd. Prif ddyletswyddau ei swydd oedd helpu unigolion yn y gymuned gydag anghenion byw a gofal personol bob dydd.
3. Ar 1 Medi 2022, derbyniodd Verytas Solutions lythyr datgelu gan Heddlu Gogledd Cymru. Roedd y llythyr yn datgelu bod Ms Cook wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ddwyn ar 25 Awst, yn dilyn derbyn gwybodaeth ei bod hi’n debygol bod nain 88 oed Ms Cook wedi cael ei hecsbloetio’n ariannol yn sgil gweithgarwch anarferol ar ei chyfrif banc a gwariant mawr.
4. Daeth Ms Cook yn llofnodwr ac yn gyd-ddeiliad cyfrif banc ar 9 Tachwedd 2021. Yn fuan wedyn, gwnaed trafodion ar nifer o wefannau gamblo, a thrafodion anarferol eraill ar wasanaethau bwyd tecawê.
5. Pan bu i Ms Cook gael mynediad a chyfrifoldeb cyd-ddeiliad i gyfrif roedd yna £11,405.27 yn y cyfrif. Erbyn 10 Awst 2022, roedd balans y cyfrif yn £7.19.
6. Ar 8 Medi 2022, cynhaliodd cyflogwr Ms Cook gyfarfod, a chafodd Ms Cook ei gwahardd dros dro wrth aros am ymchwiliad.
7. Ar 14 Medi 2022, ymddiswyddodd Ms Cook o’i swydd gyda Verytas Solutions Ltd.

Cyhuddiadau

Eich bod, tra’ch bod wedi’ch cofrestru fel Gweithiwr Gofal Cartref gyda Gofal Cymdeithasol Cymru:

(1) Rhwng Gorffennaf 2021 ac Awst 2022, eich bod wedi cyflawni twyll sef, wrth gyflawni cyfrifoldeb, sef gofalu am arian eich nain yr oedd disgwyl i chi ei ddiogelu, neu beidio â gweithredu yn erbyn buddiannau ariannol, eich bod wedi camddefnyddio’r cyfrifoldeb hwnnw gan fwriadu sicrhau budd i chi eich hun o £8,917.34.’

8. Mae’r llythyr datgelu gan Heddlu Gogledd Cymru’n cofnodi bod Ms Cook wedi cyfaddef, yn ystod cyfweliad, ei bod wedi cymryd arian trwy dwyll o gyfrif banc i’w ddefnyddio ar wefannau gamblo ac i brynu cocên. Dywedodd Ms Cook ei bod wedi troi at gamblo a defnyddio cocên ar ôl i’w thad farw a bod cael mynediad i gyfrif banc a oedd “ormod o demtasiwn”. Cyfaddefodd hefyd ei bod hi’n defnyddio ei henillion yn sgil gamblo i gamblo mwy ac i brynu cocên.
9. Yn ystod ei chyfweliad â’i chyflogwr, cyfaddefodd Ms Cook ei bod wedi trosglwyddo arian o gyfrif banc, ond ei bod wedi dychwelyd arian hefyd. Roedd yn cydnabod y gallai ei gweithredoedd fod wedi dwyn anfri ar y cwmni ac ymddiheurodd am hyn. Dywedodd ei bod hi’n deall y pryderon a godwyd ond nad oedd wedi cymryd arian gan ddefnyddiwr gofal a chymorth erioed. Cyfaddefodd Ms Cook ei bod wedi dechrau cymryd cocên ar ôl i’w thad farw ond roedd yn gwadu cymryd cyffuriau neu fod o dan ddylanwad cyffuriau yn y gwaith.
10. Ar 20 Hydref 2022, dywedodd Ms Cook wrth y Swyddog Addasrwydd i Ymarfer, drwy e-bost, fod ganddi gywilydd o'r hyn a wnaeth a'i bod yn deall iddi gam-drin ymddiriedaeth ei nain. Dywedodd Ms Cook hefyd nad yw hi’n gamblo nac yn cymryd cyffuriau mwyach, ac mai marwolaeth ei thad oedd achos ei gweithredoedd yn y gorffennol.

Casgliad


11. Cadarnhaodd Ms Cook ei bod yn cytuno â’r ffeithiau a nodir yn y datganiad hwn.
12. Mae Ms Cook yn cadarnhau nad yw hi’n bwriadu gweithio yn y dyfodol mewn unrhyw swydd a fyddai’n gofyn iddi gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a’i bod hi’n dymuno i’w henw gael ei ddileu o gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru drwy gytundeb o dan Reol 9 o Reolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ymchwilio) 2022. Paratowyd y datganiad hwn o ffeithiau y cytunwyd arnynt at y diben hwnnw.
13. Pe bai Ms Cook, yn groes i’r bwriad a fynegwyd ganddi, yn gwneud cais i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn y dyfodol, mewn perthynas ag unrhyw gategori cofrestru, mae’n cydnabod y bydd Gofal Cymdeithasol Cymru’n ystyried cynnwys y datganiad hwn o ffeithiau y cytunwyd arnynt wrth ystyried cais o’r fath.