Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod yr honiadau canlynol wedi’u profi yn erbyn Jade Fitzpatrick, Gweithiwr Gofal Preswyl Plant cofrestredig:
• methu â chynnal ffin broffesiynol briodol, a
• ffurfio perthynas amhriodol gyda Pherson Ifanc 1(YP1), a
• bod ei hymddygiad wedi'i ysgogi'n rhywiol.
• ni ddatgelodd ei bod yn destun ymchwiliad parhaus gan Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn destun gorchymyn atal dros dro i'w chyflogwr newydd
Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Jade Fitzpatrick i ymarfer a gosododd orchymyn Dileu sy’n golygu na all weithio mwyach mewn unrhyw rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru.
Mae gan Jade Fitzpatrick yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru