Jump to content
Jade Edith Marie Youde
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn gwrandawiad o bell gan Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Q Care Ltd
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod euogfarn am feddu gyda’r bwriad o gyffur rheoledig dosbarth A a honiad o fethiant i ddatgelu hyn i’w chyflogwr, wedi’i brofi yn erbyn Jade Youde, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.

Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Jade Youde i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Jade Youde yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a'i roi ar y Rhestr o Bobl sy'n cael eu Dileu.

Mae gan Jade Youde yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru

Crynodeb o honiadau

Dedfrydwyd Ms Youde i 27 mis o garchar am y drosedd o feddu ar gyffur rheoledig dosbarth A gyda bwriad, yn groes i adran 5(3) o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971.

Methodd Ms Youde â datgelu i'w chyflogwr ei bod yn destun ymchwiliadau'r heddlu am droseddau meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi cyffuriau rheoledig.

Roedd gweithredoedd Ms Youde fel y nodwyd uchod yn anonest a/neu’n ddiffygiol.