Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod yr honiadau canlynol wedi'u profi yn erbyn Christine Roberts, gweithiwr gofal cartref
- mynychu'r gwaith pan oedd hi'n anaddas i wneud hynny oherwydd yfed alcohol.
- wedi methu â gwisgo mwgwd wyneb bob amser wrth ddarparu gofal i ddefnyddiwr gofal a chefnogaeth
- wedi torri Polisi Gyrru am Waith ei chyflogwyr trwy yrru ar ôl yfed alcohol.
Pob un profwyd.
Canfu'r Panel fod nam ar addasrwydd i ymarfer cyfredol Christine Roberts a gosododd Orchymyn Dileu sy'n golygu na all weithio mwyach mewn unrhyw rôl a reoleiddir mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae gan Christine Roberts yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru