Mae Panel Ffitrwydd i Ymarfer a eisteddodd ar 8-9 Tachwedd wedi canfod bod yr honiadau canlynol yn erbyn Alisha Masters, gweithiwr gofal cartref cofrestredig, wedi profi
• Mynychu cyfarfod cymdeithasol yn torri Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Cymru) 2020
• Cynghorodd ei rheolwr yn ffug ei bod yn ofynnol iddi hunan-ynysu am gyfnod oherwydd Covid 19 a theithio dramor am wyliau
• Yn anonest i'w rheolwr ynghylch ei lleoliad yn ystod y cyfnod hwn.
Canfu'r Panel fod nam ar ffitrwydd i ymarfer cyfredol Alisha Masters a gosododd orchymyn dileu sy'n golygu na all weithio mewn unrhyw rôl gofal cymdeithasol rheoledig yng Nghymru.
Mae gan Alisha Masters yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru