Mae ein cynllun strategol – ymgysylltu â'r cyhoedd bellach ar agor. Rhannwch eich barn gyda ni cyn 27 Mawrth.
Trosolwg
Rydyn ni eisiau eich barn a’ch syniadau am ein meysydd ffocws yn y dyfodol i’n helpu i ddatblygu ein cynllun strategol pum mlynedd ar gyfer 2027 i 2032. Mae’r ymgysylltiad hwn yn rhannu ein syniadau cynnar ar gyfer y cynllun newydd cyn i ni ymgynghori’n ffurfiol ar ei gynnwys llawn.
Ein cynllun strategol
Mae ein Cynllun strategol yn nodi sut y byddwn yn gweithio tuag at ein gweledigaeth hirdymor a'r canlyniadau yr ydyn am eu cyflawni ar gyfer pobl, y gweithlu a'r sector. Mae’n canolbwyntio ar ein blaenoriaethau pwysicaf ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae ein cynllun presennol yn rhedeg tan fis Mawrth 2027. Dros y misoedd nesaf, rydyn am gasglu eich barn i helpu i benderfynu ar y ffocws ar gyfer y cynllun nesaf. Mae hwn yn gyfle i fyfyrio ar ein syniadau cynnar ac i ddylanwadu ar gyfeiriad ein cynllun strategol nesaf.
Ein gweledigaeth ar gyfer 2050
Yn 2050 mae pawb yn cael eu cefnogi i wneud yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw, eu teulu a'u cymuned.
Erbyn 2050, rydyn ni eisiau system gofal a chymorth sy’n lewyrchus, gynhwysol a pharod i'r dyfodol sy'n cyflawni rhagoriaeth gyson mewn lles, arweinyddiaeth ac amgylcheddau gofal yng Nghymru. Yn ganolog i hyn mae gweithlu amrywiol, medrus a gwerthfawr sy’n cael ei alluogi gan tâl teg, hunaniaeth broffesiynol gryf a llwybrau gyrfa hyblyg.
Trwy arweinyddiaeth feiddgar a diwylliannau cadarnhaol, gyda arweinyddiaeth cryf, adnoddau a sylfeini digidol da, bydd y sector yn cryf, trugarog ac ymatebol. Bydd gwasanaethau yn cadw pobl yn ddiogel, yn cefnogi annibyniaeth, ac yn gwella bywydau cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Adlewyrchu egwyddorion cyfunol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru), gan gynnwys meddwl hirtymor, atal, integreiddio, cydweithio, a sicrhau bod gan bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth, a'u teuluoedd, lais a rheolaeth wrth lunio gofal.
Er mwyn troi'r weledigaeth hirdymor hon yn weithred ystyrlon, mae angen darlun clir o'r sefyllfa presennol. Mae mewnwelediadau o'r gweithlu a data cenedlaethol amser real yn ein helpu i ddeall heriau a chyfleoedd heddiw, gan sicrhau bod ein huchelgeisiau ar gyfer 2027 i 2032 yn cael eu siapio gan brofiadau wir a thystiolaeth ddibynadwy. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i benderfynu ar ystod o fesurau a byddwn yn cynnwys y rhain yn ein cynllun strategol derfynol.
Uchelgeisiau hirdymor ar gyfer y cynllun strategol
Mae'r ymgysylltiad hwn yn nodi ein blaenoriaethau drafft i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, i gefnogi'r sector gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar ar yr hyn sy'n bwysig i unigolion, teuluoedd a'u gofalwyr.
Mae'r adrannau isod yn nodi ein tri uchelgais hirdymor drafft, y meysydd blaenoriaeth yr ydym yn bwriadu canolbwyntio arnynt, a sut rydyn yn bwriadu gweithio gyda chi dros y pum mlynedd nesaf i hyrwyddo ein gweledigaeth:
- cefnogi rhagoriaeth ar draws gwasanaethau gofal cymdeithasol
- adeiladu gweithluoedd gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar gwerthfawr a medrus
- llunio'r dyfodol gorau posibl ar gyfer gofal cymdeithasol.
Mae’r uchelgeisiau hyn yn ddrafft ac yn cael eu rhannu fel rhan o’r ymgysylltiad hwn i wahodd adborth. Byddyn nhw’n cael eu mireinio ymhellach cyn terfynu’r cynllun strategol.
Cefnogi rhagoriaeth ar draws gwasanaethau gofal cymdeithasol
Pam rydyn ni'n meddwl y dylai hyn fod yn flaenoriaeth
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael gofal a chymorth da neu ragorol, ond mae cysondeb ledled Cymru yn parhau i fod yn her. Mae’n rhaid i wasanaethau ateb anghenion unigolion presennol ac yn y dyfodol, ynghyd â’u teuluoedd a’u gofalwyr.
Beth rydyn ni eisiau’i gyflawni?
Erbyn 2050, rydyn ni eisiau i bob gwasanaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru gynnig cymorth rhagorol i bobl a staff. Mae hyn yn golygu gwasanaethau sy'n deg, yn gynhwysol ac yn ofalgar, ac sy'n cefnogi'r bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth yn ogystal a'r rhai sy'n ei ddarparu.
Rydyn ni eisiau sefydliadau barhau i ddysgu, defnyddio syniadau newydd yn gyfrifol a gweithio'n dda gyda'i gilydd. Drwy feithrin diwylliannau cadarnhaol, gwerthfawrogi amrywiaeth a'r iaith Gymraeg, a defnyddio tystiolaeth yn effeithiol, gallwn wella profiadau i bobl a chymunedau.
Pwy fydd yn cymryd rhan?
Byddwn yn gweithio gydag arweinwyr, darparwyr, pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth, eu gofalwyr, eu teuluoedd ac â’n partneriaid ar draws y system i wella lles, gofal a chymorth, arweinyddiaeth ac amgylcheddau gwasanaeth. Bydd llunwyr polisi, addysgwyr, rheoleiddwyr a sefydliadau cymunedol hefyd yn chwarae rhan bwysig.
Erbyn diwedd 2032, i gefnogi rhagoriaeth mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, byddwn yn:
- cefnogi arweinwyr i feithrin diwylliannau cadarnhaol a hyrwyddo gofal cynhwysol a thosturiol.
- hyrwyddo cydraddoldeb, cymhwysedd diwylliannol a phwysigrwydd y Gymraeg fel bod gwasanaethau yn adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.
- darparu a defnyddio tystiolaeth i helpu gwasanaethau i ddysgu, addasu a gwella.
- cefnogi cyflogwyr gofal cymdeithasol i gynllunio a datblygu eu gweithluoedd.
Adeiladu gweithluoedd gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar gwerthfawr a medrus
Pam ydyn ni'n meddwl y dylai hyn fod yn flaenoriaeth?
Mae gofal rhagorol yn gofyn am weithlu rhagorol. Mae angen gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar digonol, proffesiynol ac amrywiol, sy'n fedrus, yn cael eu gwerthfawrogi ac sy'n diwallu anghenion ein cymunedau.
Beth rydyn ni eisiau’i gyflawni?
Erbyn 2050, bydd gan Gymru weithluoedd sy'n amrywiol, yn cael eu parchu ac yn cael eu cydnabod fel rhai hanfodol i'n cymunedau a'n heconomi. Bydd pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn cael tâl teg ac yn falch o'u hunaniaeth broffesiynol. Bydd ein rôl reoleiddiol yn parhau i gynnal safonau uchel a hyder y cyhoedd, gan gefnogi proffesiwn cryf a dibynadwy.
Pwy fydd yn cymryd rhan?
Byddwn yn gweithio gyda'r gweithlu, cyflogwyr, rheolwyr ac arweinwyr sy'n siapio diwylliant ac ymarfer. Byddwn hefyd yn gweithio gyda darparwyr addysg a hyfforddiant, llunwyr polisi, a rheoleiddwyr i sicrhau bod llwybrau gyrfa a safonau yn adlewyrchu anghenion y sector. Bydd pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth, a'u teuluoedd a'u gofalwyr, yn helpu i lunio ein dealltwriaeth o sut olwg sydd ar weithlu gwerthfawr.
Erbyn diwedd 2032, i weithio tuag at adeiladu gweithluoedd gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar gwerthfawr a medrus, byddwn yn:
- cynnal safonau proffesiynol a hyder y cyhoedd trwy ein rôl reoleiddio.
- hyrwyddo cydnabyddiaeth y gweithlu a thâl teg, cydraddoldeb, cymhwysedd diwylliannol a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg.
- cefnogi gyrfaoedd a dysgu trwy fuddsoddi mewn datblygiad arweinyddiaeth, cryfhau llwybrau a gwella mynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel.
- gweithio gyda chyflogwyr, darparwyr addysg a phartneriaid ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i rannu arfer gorau a chreu cyfleoedd ar gyfer datblygiad.
Llunio'r dyfodol gorau posibl ar gyfer gofal cymdeithasol
Pam ydyn ni'n meddwl y dylai hyn fod yn flaenoriaeth?
Mae pobl yng Nghymru angen cymorth amserol, integredig ac o ansawdd da. Wrth i anghenion dyfu ac wrth i bobl fyw’n hirach, mae’n bwysig bod cymunedau’n hyderus yng nghyllid, hygyrchedd ac ansawdd y gofal a chymorth.
Beth ydyn ni eisiau’i gyflawni?
Erbyn 2050, rydyn ni eisiau i’r gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru fod yn gryf, yn gynaliadwy ac yn barod ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn golygu bod arweinwyr yn gweithio gyda'i gilydd ar draws gwasanaethau a sectorau i gynllunio, gwella ac ymateb i anghenion sy'n newid.
Byddwn yn defnyddio tystiolaeth, ymchwil a syniadau newydd i helpu i lunio dulliau hirdymor sy'n rhoi mwy o reolaeth i bobl a gwella bywydau am flynyddoedd i ddod.
Pwy fydd yn cymryd rhan?
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol a chymunedau, yn ogystal â sefydliadau addysg ac ymchwil. Bydd pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth, a'u teuluoedd, yn ganolog i lunio gwasanaethau yn y dyfodol.
Erbyn diwedd 2032, i weithio tuag at lunio dyfodol Gofal Cymdeithasol, byddwn yn:
- gweithio gyda phartneriaid ar ddyfodol uchelgeisiol gofal cymdeithasol
- darparu her a thystiolaeth i ysbrydoli trawsnewid
- gyrru strategaethau gweithlu a gwella effeithiol a hirdymor
- ymgorffori meddwl hirdymor, cydweithredu ac atebolrwydd cydrannol I helpu llunio system sy'n wydn, person-ganolog ac yn barod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Sut i ymateb
Gallwch rannu eich barn drwy:
- cwblhau'r arolwg ar-lein
- llawrwytho'r ddogfen hon, cwblhau'r arolwg ar dudalennau 16 i 18, a'i hanfon drwy e-bost at: gwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru
- argraffu'r ddogfen hon, cwblhau'r arolwg ar dudalennau 16 i 18, a'i bostio i: Gofal Cymdeithasol Cymru, South Gate House, Stryd Wood, Caerdydd CF10 1EW.
Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgysylltiad yw 27 Mawrth 2026.
Unwaith y bydd y cyfnod ymgysylltu wedi cau, byddwn yn ystyried yr holl adborth ac yn symud ymlaen i'r cam nesaf o ddatblygu'r Cynllun strategol newydd.
Diolch am gymryd yr amser i ddweud wrthym beth ydych chi'n ei feddwl.
Beth i ddisgwyl o'r arolwg
- Does dim atebion anghywir, dim ond eich barn
- Does dim angen i chi ateb pob cwestiwn os na hoffech chi
- Ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol os nad ydych yn penderfynnu rhannu gyda ni
- Byddwch yn helpu i siapio ein cynllun strategol.