Sut byddwn ni'n gweithio gyda phartneriaied i gyflawni uchelgeisiau Ymlaen - y strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol.
Mae pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn mynd gam ymhellach i ddarparu gwasanaethau sy'n gwella canlyniadau i bobl Cymru.
Rydyn ni eisiau creu diwylliant lle mae tystiolaeth a pholisi yn ganolog i'r broses gyflawni ac yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ar bob lefel o ofal cymdeithasol. I greu diwylliant lle mae pobl yn teimlo ysbrydoliaeth a chefnogaeth i roi cynnig ar bethau newydd.
Ymlaen yw’r strategaeth rydyn ni wedi’i datblygu gyda’n gilydd i gyflawni’r nodau hynny.
Ein gweledigaeth
Helpu pobl sy’n arwain, yn datblygu ac yn darparu gofal cymdeithasol i deimlo’n hyderus, a’u bod yn cael eu cefnogi a’u hysbrydoli i ddefnyddio ymarfer, tystiolaeth ac arloesedd i wneud gwahaniaeth positif i ofal a chymorth yng Nghymru.
I wireddu’r weledigaeth, bydd angen cydweithio cryf ar draws ystod eang o sefydliadau partner. Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn arwain y strategaeth newydd hon ac yn gweithio gyda phartneriaid i'w chyflawni.
Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn cadw golwg ar y gweithredu ac yn dod â phartneriaid a rhanddeiliaid at ei gilydd yn rheolaidd i rannu cynnydd ac i gytuno ar ein gwaith yn y dyfodol.
Nod ein strategaeth newydd yw gwneud cyfraniad pob partner yn gliriach o ran cefnogi ymchwil, arloesi a gwella parhaus. Mae’n gyfle i bob un ohonon ni 'uno'r dotiau' i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, ac i wneud y gwaith caled o ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnyn nhw i wneud gwahaniaeth i sut maen nhw’n darparu cymorth.
I gyflawni gweledigaeth Ymlaen, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn: