Y rheolwr llety diogel fydd yn pennu cyfeiriad gweithredol y gwasanaeth, ac yn trefnu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n effeithiol er mwyn cyflawni datganiad o ddiben y lleoliad.
Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
Gofynnol er mwyn cofrestru:
-
City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
a
-
City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer
neu
Unrhyw un o’r cymwysterau lefel 3 neu uwch arall ar gyfer gweithwyr cartref gofal i blant a phobl ifanc.
ac
-
City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ac
Wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.
Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer ei gwblhau yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.
neu
Unrhyw un o’r cymwysterau lefel 3 neu uwch arall ar gyfer gweithwyr cartref gofal i blant a phobl ifanc.
ac
Wedi cofrestru ar City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei gwblhau a chwblhau City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.
neu
Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol, Nyrsio neu Therapi Galwedigaethol.
ac unai
-
Tystysgrif Ôl-radd mewn Rheoli Ansawdd Ymarfer mewn Gofal Cymdeithasol Cymdeithasol (adnabyddir hefyd fel Rhaglen Datblygu Rheolwyr Tîm (TMDP))
neu
Cymhwyster rheoli generig ar yr amod ei fod:
- yn o leiaf lefel 3
- ganddo o leiaf 37 credyd
- wedi’i asesu yn y gweithle ar gyfer cymhwysedd galwedigaethol a bod y person cofrestredig mewn rôl iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol pan gafodd y cymhwyster ei ymgymryd.
Mae’r rheolwyr sy’n dal un o’r graddau a rhestrwyd ond dim un o’r cymwysterau rheolwyr, yn gallu ceisio cofrestru ond fe fydd angen cwblhau'r cymhwyster perthnasol yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.