SYLWEBEDD:
[00:00:00] Dwi wedi teithio i Langollen i weld ymchwil arbennig sy’n cael ei gynnal gan dîm o Ganolfan Datblygu Gwasanaeth Dementia Cymru ym Mhrifysgol Bangor.
[00:00:11] Yn y prosiect Dementia a’r Dychymig mae pobl sydd yn byw gyda dementia yn cymryd rhan mewn grŵp celf sydd yn cael ei rhedeg gan artist lleol am ddeuddeg wythnos.
[00:00:21] Mae’r ymchwilwyr yn cyfweld â’r cyfranwyr cyn iddynt ddechrau prosiect, yn eu hasesu yn ystod y sesiynau grŵp, yn eu cyfweld eto ar ddiwedd y prosiect ac ar ôl tri mis.
[00:00:34] Byddant wedyn yn casglu’r holl ddata i weld os fu’r prosiect yn fudd i’r cyfranwyr ac wedi cael effaith ar y symptomau dementia.
[00:00:44] Yn ogystal â Chymru, mae’r prosiect hefyd yn cael ei gynnal gan Arweiniad y Ganolfan mewn dau safle yn Lloegr.
CYFWELYDD:
[00:00:52] Sut fydd y data yn helpu chi deall mwy am ddementia?
ATEBYDD:
[00:00:56] Mae ’na lot o ddiddordeb mewn effaith neu fanteision o ymwneud â grŵp celf gyda phobl sydd â dementia a dan ni’n trio gweld ydy’r elfen o gelf weledol yn beth arbennig a dan ni’n hefyd yn trio gweld pa effaith mae’n cael ar bobl yn byw o ddydd i ddydd; yn byw yn well gydag anawsterau, a dweud y gwir.
SYLWEBYDD:
[00:01:20] Mae John wedi bod yn cymryd rhan yn y grŵp a ches i air gydag o a’i wraig Cath, i weld sut oedd o’n mwynhau’r her newydd.
JOHN:
[00:01:28] Mae ’na ormod o bobl yn ein hoed ni ac yn fengach, yn eistedd o gwmpas gwneud dim byd.
[00:01:33] Mae’n neis cael sialens i wneud y meddwl a chael creu pethau mewn ffordd, on’d ydy. Roeddwn i fel peiriannydd, ro’n i’n wrth fy modd cael gwneud ac yn cael creu pethau newydd, ’lly.
CATH:
[00:01:46] Dach chi’n gorfod defnyddio’ch meddwl, on’d ydach, pan dach chi’n gwneud rhywbeth fel hyn ac mae hwnna’n peth da, dwi’n credu, ac yn enwedig gyda phobl sydd ag Alzheimer’s a phethau felly, achos bob tro mae hwn yn defnyddio’r meddwl, mae’n lles, ynte?
JOHN:
[00:01:59] O ydy, cadw chi mynd mewn ffordd. Cadw’r gray matter ’ma mynd.
CYFWELYDD:
[00:02:07] Oes ’na stigma o amgylch dementia?
ATEBYDD:
[00:02:10] Oes, dwi'n meddwl bod hyn yn deillio o ddiffyg dealltwriaeth ac ofn pobl.
[00:02:16] Dan ni’n gobeithio, trwy arddangos y gwaith mewn llefydd cyhoeddus wedyn a dathlu llwyddiant yr aelodau, bod dan ni’n mynd i dorri ychydig o’r stigma ’na sgen pobl, ac mae’n neis iddyn nhw fel gwneud rhywbeth positif.
[00:02:30] Ar hyn o bryd, does ’na ddim ffordd o atal dementia unwaith mae wedi datblygu.
[00:02:35] Be dan ni yn trio gwneud mewn prosiect fel hyn ydy galluogi pobl i fyw bywyd llawn ac iach, er bod nhw wedi cael diagnosis o ddementia.
[00:02:44] Mae wedi bod yn braf iawn dilyn y bobl o’r dechrau trwy’r prosiect.
[00:02:47] Maen nhw’n cael lot o hwyl ac maen nhw’n jocio lot, maen nhw’n ffrindiau ac maen nhw’n cael elfen o falchder.