1
00:00:09 --> 00:00:12
Darparwr gofal yn y cartref yw Village Support Services.
Rydyn ni wedi ein lleoli yng
2
00:00:12 --> 00:00:14
Nghoed Duon
3
00:00:14 --> 00:00:17
ac mae’r cwmni wedi bod yn rhedeg ers tua 20 mlynedd.
4
00:00:18 --> 00:00:22
Fy mam-yng-nghyfraith, Mary, a sefydlodd y cwmni
ac ein mantra byth ers hynny
5
00:00:22 --> 00:00:25
yw gwerthfawrogi'r staff,
ac mae’r ffaith bod gennym ni staff sy’n dal i weithio yma
6
00:00:25 --> 00:00:29
ers y dechrau, 20 mlynedd felly, o wir bwys.
7
00:00:31 --> 00:00:36
Pan sefydlwyd y cwmni roeddwn i’n arfer gweithio bob penwythnos,
fi oedd yn arfer gofalu am bawb.
8
00:00:37 --> 00:00:41
Y gofalu, y cyflogau, popeth
nes i mi lwyddo cyflogi cwpl o bobl
9
00:00:41 --> 00:00:44
i weithio yn y swyddfa
ac fe wnes i dyfu’r busnes o hynny ymlaen mewn gwirionedd.
10
00:00:45 --> 00:00:48
Rydyn ni wedi profi amseroedd gwael
ac rydyn ni wedi profi amseroedd da hefyd,
11
00:00:48 --> 00:00:52
ac rydyn ni’n talu ein merched yn dda,
ac yn gofalu amdanynt.
12
00:00:52 --> 00:00:55
Mae gan Village Support Services
gysylltiad â'r grŵp hyfforddiant Educ8
13
00:00:55 --> 00:00:58
achos ein bod ni’n cydweithio â’n gilydd ers 2013.
Rydyn ni’n eu cefnogi
14
00:00:58 --> 00:01:01
gyda'u prentisiaethau
ar gyfer dysgu a datblygiad eu staff.
15
00:01:02 --> 00:01:06
Yr adborth gan y prentisiaid yw
eu bod nhw’n teimlo bod ganddynt gefnogaeth
16
00:01:06 --> 00:01:10
a’u bod yn adnabod eu teuluoedd hefyd,
sydd wir yn gwneud iddyn nhw deimlo'n rhan
17
00:01:10 --> 00:01:11
o’r busnes.
18
00:01:12 --> 00:01:13
Nid gwneud cynnyrch ydyn ni,
19
00:01:13 --> 00:01:18
rydyn ni’n gweithio gyda phobl
ac mae’n hanfodol gwerthfawrogi pobl sy'n cefnogi pobl eraill.
20
00:01:18 --> 00:01:21
A dwi’n credu trwy werthfawrogi pob gofalwr,
21
00:01:21 --> 00:01:24
beth bynnag fydd eich lefel rheoli,
22
00:01:24 --> 00:01:29
byddan nhw’n teimlo mwy o barch tuag atoch
a phan fyddwch chi'n parchu'r hyn maen nhw'n ei wneud
23
00:01:29 --> 00:01:31
byddwch chi’n rhannu un nod gyda’ch gilydd.