1
00:00:07 --> 00:00:10
Bydd unrhyw reolwr gofal cymdeithasol yn dweud
2
00:00:10 --> 00:00:13
taw eu staff yw eu cryfder mwyaf
ac yn ein hachos ni
3
00:00:13 --> 00:00:17
mae Passion 4 Practice yn canolbwyntio ar
adeiladu ar y cryfder hwnnw.
4
00:00:17 --> 00:00:20
Mae’r staff yn gweithio gyda theuluoedd bob dydd,
a gallan nhw ein
5
00:00:20 --> 00:00:22
helpu i ddatblygu ein gwasanaeth
6
00:00:22 --> 00:00:25
trwy gyd-gynhyrchu’r gwasanaeth gyda ni
7
00:00:25 --> 00:00:28
mewn ffordd na fyddai’n bosibl heb eu cymorth.
8
00:00:28 --> 00:00:30
Yn wreiddiol, roedd Passion 4 Practice
9
00:00:30 --> 00:00:33
yn ymwneud â chreu amgylchedd addas
ar gyfer ein hymarferwyr
10
00:00:33 --> 00:00:36
fel y gallant fod y gweithwyr cymdeithasol y maent am fod
a’r gweithwyr cymdeithasol
11
00:00:36 --> 00:00:39
sydd eu hangen ar deuluoedd.
Fel aelod o staff, rydw i’n
12
00:00:39 --> 00:00:42
gweithio i’r awdurdod lleol ers chwe blynedd bellach
a dwi wir yn teimlo bod pobl yn gwrando arna i.
13
00:00:42 --> 00:00:47
Pan fyddwn ni’n buddsoddi ein hamser
yn y sesiynau Passion 4 Practice hyn,
14
00:00:48 --> 00:00:52
fel ymarferwyr os nad yw pethau’n mynd
yn dda neu os oes angen newid rhywbeth
15
00:00:52 --> 00:00:55
yna gallwn ni fynegi hynny
a bydd pobl yn gwrando ar
16
00:00:55 --> 00:01:00
ein hadborth, a bydd hynny yn gwella
canlyniadau i ddefnyddwyr ein gwasanaeth bob tro.
17
00:01:00 --> 00:01:04
Mae Passion 4 Practice wedi gwneud i staff
deimlo eu bod nhw’n
18
00:01:04 --> 00:01:08
rhan o’r broses
a’u bod yn chwarae rôl bwysig wrth wneud penderfyniadau
19
00:01:08 --> 00:01:10
a’u bod yn cyfrannu at ddatblygiad
y gwasanaeth.
20
00:01:10 --> 00:01:13
Nid yn unig y mae hynny wedi gwella
llesiant y staff, dwi’n credu ei bod
21
00:01:14 --> 00:01:18
wedi gwneud staff yn awyddus i weithio ym Merthyr
22
00:01:18 --> 00:01:23
a dwi’n sicr fod hyn o ganlyniad i sesiynau Passion 4 Practice.
Dwi wir yn credu hynny.
23
00:01:23 --> 00:01:26
Daeth y prosiect i fodolaeth ar ôl cydnabod yr angen i
ymgynghori â staff
24
00:01:26 --> 00:01:32
er mwyn canfod eu barn am sut y gallem ni
wella ein hymarfer, ac mae’r cyfan yn cael ei gymell
25
00:01:32 --> 00:01:36
gan yr ymarferwyr,
a chododd yr enw Passion 4 Practice
26
00:01:36 --> 00:01:41
gan ystyried yr ymdeimlad fod
gwir angerdd dros wella
27
00:01:41 --> 00:01:43
yn bodoli ym Merthyr.
Felly, fy neges i unrhyw un sydd
28
00:01:43 --> 00:01:46
am greu rhywbeth tebyg i
Passion 4 Practice yw
29
00:01:46 --> 00:01:49
cer amdani, cant y cant.
Mae mor drawsnewidiol
30
00:01:49 --> 00:01:53
a dyma ddull o redeg gwasanaeth
sy’n gweithredu’n llwyr o'r gwaelod i fyny.