1
00:00:08,200 --> 00:00:13,179
Dwi'n gwybod o'm profiad personol fy hun
pa mor anodd y gall bywyd fod
2
00:00:13,179 --> 00:00:17,370
os ydych yn gofalu am rywun
ag anghenion cymhleth ac awtistiaeth
3
00:00:17,370 --> 00:00:20,057
sydd ddim yn dilyn eu threfn reolaidd
yn ystod gwyliau'r ysgol.
4
00:00:20,197 --> 00:00:24,992
Dwi'n defnyddio'r clwb fy hun ar gyfer
fy mab ac mae'n dwlu ar fynd yno,
5
00:00:24,992 --> 00:00:29,306
ac mae'n wych bod gan y rhieni eraill
yr opsiynau hynny hefyd
6
00:00:29,306 --> 00:00:33,719
ac yn wych bod gan y plant
gyfle i chwarae mewn ffordd strwythuredig
7
00:00:33,719 --> 00:00:37,700
gan fod chwarae yn anodd
iawn i blant ag awtistiaeth.
8
00:00:37,700 --> 00:00:41,158
Bod mewn amgylchedd cyfforddus
gyda phobl sy'n deall beth yw eu hanghenion
9
00:00:41,158 --> 00:00:43,281
fel unigolion,
ac nid fel grŵp yn unig,
10
00:00:43,281 --> 00:00:46,000
fel y gallant fwynhau eu hamser yn y clwb.
11
00:00:46,382 --> 00:00:52,209
Mae'r effaith mae Gwen wedi'i chael o ran sicrhau fod gofal plant
12
00:00:52,209 --> 00:00:54,449
ar gael i deuloedd
ar gyfer eu plant
13
00:00:54,449 --> 00:00:57,010
wedi bod yn arwyddocaol
mewn achos sawl teulu.
14
00:00:57,010 --> 00:01:02,014
Pe na byddai'r clwb gwyliau yn bodoli,
byddai llawer o deuluoedd yn
15
00:01:02,014 --> 00:01:05,633
cael trafferth i ymdopi
heb y gofal plant a'r seibiant
16
00:01:05,633 --> 00:01:08,259
y mae angen arnynt
a all effeithio
17
00:01:08,259 --> 00:01:11,452
ar aelodau eraill o'r teulu.
Ac felly byddai angen peth cefnogaeth
18
00:01:11,452 --> 00:01:15,682
ar frodyr a chwiorydd y plant sydd
ag anhwylderau yn y sbectrwm awtistig.
19
00:01:15,682 --> 00:01:19,007
Felly, mae wedi cael effaith
enfawr ar lawer o deuluoedd
20
00:01:19,007 --> 00:01:21,318
sydd wedi gallu defnyddio'r
21
00:01:21,318 --> 00:01:23,132
ddarpariaeth a gynigir gan Oak Hill ASD.
22
00:01:24,262 --> 00:01:25,712
Y peth gorau am y swydd
23
00:01:25,712 --> 00:01:31,109
yw pan ddaw'r rhieni yn ôl i ddweud
faint mae eu plant wedi mwynhau
24
00:01:31,109 --> 00:01:34,908
treulio amser yn y clwb
a'u bod nhw'n falch iawn i gael rhywle
25
00:01:34,908 --> 00:01:38,444
lle maen nhw'n gwybod y bydd eu plant
a'u holl anghenion cymhleth
26
00:01:38,444 --> 00:01:41,730
yn cael eu cefnogi'n dda
yn ystod gwyliau'r ysgol,
27
00:01:41,730 --> 00:01:45,560
sydd wir yn gyfnod anodd iawn
i blant sydd ag awtistiaeth.