1
00:00:08,160 --> 00:00:13,853
Mae'r prosiect yn ymwneud â chefnogi
llesiant ac iechyd meddwl staff
2
00:00:13,853 --> 00:00:20,997
drwy gydol y pandemig
gyda phwyslais ar lesiant a diolchgarwch.
3
00:00:20,997 --> 00:00:24,429
Yr hyn roeddwn am ei gyflawni
trwy'r prosiect hwn
4
00:00:24,429 --> 00:00:28,254
oedd darparu rhywle diogel
i staff gyfarfod â'i gilydd yn rheolaidd
5
00:00:28,254 --> 00:00:34,516
er mwyn iddynt deimlo bod ganddynt
le diogel i'w fynychu unwaith yr wythnos
6
00:00:34,516 --> 00:00:37,367
lle mae ffocws arnyn nhw a'u llesiant.
7
00:00:37,367 --> 00:00:40,944
Dwi’n meddwl i fy mod i wedi elwa o'r prosiect
8
00:00:40,944 --> 00:00:45,007
oherwydd yn ein swydd
rydyn ni'n ysgwyddo beichiau a phryderon
9
00:00:45,007 --> 00:00:47,868
pobl eraill
ac mae sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio
10
00:00:47,868 --> 00:00:53,143
ar ein llesiant ein hunain yn eithaf pwysig
achos, fel arall, ni fyddwn ni'n gallu sicrhau
11
00:00:53,143 --> 00:00:55,960
llesiant yr unigolion rydyn ni'n eu cefnogi.
12
00:00:55,960 --> 00:01:01,248
Mae’n hynod o fuddiol pan gaiff eich llesiant chi
13
00:01:01,248 --> 00:01:04,664
ei drin mor bwysig
â llesiant y bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw
14
00:01:04,664 --> 00:01:13,927
a chewch yr amser a'r gofod i'ch hunan
er mwyn gweithio ar eich llesiant eich hun.
15
00:01:13,927 --> 00:01:19,118
Ers mynychu sesiynau Attitude for Gratitude
dwi wedi colli 50 pwys.
16
00:01:19,118 --> 00:01:21,829
Mae wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol
i'm llesiant corfforol
17
00:01:21,829 --> 00:01:26,366
yn ogystal â'm llesiant meddyliol.
Dwi'n credu bod hynny achos bod y prosiect
18
00:01:26,366 --> 00:01:30,000
yn ein hannog i ddeall ei fod yn bwysig
blaenoriaethu ein hanghenion
19
00:01:30,000 --> 00:01:32,992
corfforol a meddyliol,
ac nid yn unig y gwaith rydyn ni'n ei wneud.
20
00:01:32,992 --> 00:01:37,724
Fy neges i unrhyw un sy'n ystyried
sefydlu neu redeg grŵp o'r un fath
21
00:01:37,724 --> 00:01:44,548
yw cer amdani, cant y cant.
Yn sicr, mae'n rhaid cynllunio a pharatoi
22
00:01:44,548 --> 00:01:48,143
ac mae'n rhaid gwneud hyn ar ben
eich holl waith dyddiol arall
23
00:01:48,143 --> 00:01:53,148
ond mae'r manteision yn gwneud hyn
mor werth chweil.
24
00:01:53,148 --> 00:01:58,207
Mae'n fraint gwylio aelodau o'r tîm
a'ch cydweithwyr yn tyfu.