00:06 --> 00:10
Ni'n gwybod bod buddsoddi yn y gweithlu a datblygu pobl
00:11 --> 00:12
wrth wraidd gwasanaethau da yng Nghymru.
00:13 --> 00:15
Dyna pam gweithion ni gyda'r sector
00:16 --> 00:17
i greu'r Rhaglen Datblygu Rheolwyr Tîm.
00:19 --> 00:21
Mae'r Rhaglen Datblygu Rheolwyr Tîm yn gwrs 18 mis
00:23 --> 00:25
a allai'ch helpu chi i wella ansawdd ymarfer,
00:26 --> 00:28
rheoli eich tîm yn effeithiol
00:28 --> 00:30
ac ymdrin a newid yn llwyddiannus.
00:31 --> 00:34
Mae TMDP yn gwrs ymarferol iawn
00:34 --> 00:36
ac un o'r prif agweddau, dw i'n meddwl,
00:36 --> 00:37
yn gyntaf ac yn bennaf
00:37 --> 00:39
yw ei fod e'n rhoi cyfle i bobl rwydweithio gyda'u cyfoedion.
00:40 --> 00:40
Gall bod yn rheolwr deimlo'n eithaf unig ar adegau
00:42 --> 00:45
ac mae TMDP yn meithrin ymdeimlad gwirioneddol o berthyn
00:46 --> 00:48
a dealltwriaeth gyffredin o heriau cyfunol.
00:48 --> 00:50
Pe baech chi'n dilyn y cwrs
00:50 --> 00:52
byddech chi'n cael amser a lle
00:52 --> 00:54
i fyfyrio ar eich ymarfer eich hun
00:54 --> 00:55
ac ar y ffordd rydych chi'n mynd ati
00:55 --> 00:58
i wella ansawdd ymarfer o fewn eich timau.
00:58 --> 00:59
Y peth gorau yn fy marn i
01:00 --> 01:01
oedd y perthnasoedd roeddwn i wedi'u ffurfio
01:01 --> 01:03
gyda chyfoedion ar draws Cymru.
01:03 --> 01:06
Yn aml iawn byddech yn cwrdd â rheolwr tebyg
01:07 --> 01:09
mewn rôl debyg, sy'n wynebu'r un heriau â chi.
01:11 --> 01:13
A'r hyn roeddwn wedi'i ddarganfod yw
01:13 --> 01:14
y bydden nhw'n datrys problemau
01:14 --> 01:15
mewn ffyrdd gallwn i eu defnyddio fy hun
01:16 --> 01:18
a gallwn i fynd â'r syniadau yna i fy awdurdod lleol fy hun.
01:18 --> 01:20
Felly roedd e'n ddefnyddiol iawn gwrando ar syniadau pobl eraill.
01:21 --> 01:23
Dw i'n credu bod y cwrs wedi fy nysgu i
01:24 --> 01:28
i ddeall y pwysau rhwng
01:28 --> 01:30
rheoli tîm o weithwyr cymdeithasol
01:30 --> 01:31
a gweithwyr cymorth ac ati
01:31 --> 01:35
yn erbyn y pwysau
01:35 --> 01:38
a'r disgwyliadau, fel petai, sydd gan reolwyr uwch.
01:38 --> 01:40
Mae yna dargedau i'w cyrraedd, ch'mod.
01:42 --> 01:43
Mae yna ystyriaethau cyllidebol gan y rheolwyr uwch.
01:45 --> 01:48
Ond mae yna dîm o unigolion a bodau dynol hefyd
01:48 --> 01:51
sydd angen cael eu cefnogi'n briodol ac yn effeithiol.
01:51 --> 01:53
Dw i'n credu bod y cwrs wedi fy nysgu i
01:53 --> 01:58
i ddelio ag anawsterau o'r fath yn well.