Rydych wedi ymuno â Chofrestr gweithlu gofal cymdeithasol Cymru.
Da iawn, rydych chi bellach wedi'ch cofrestru i ymarfer yma yng Nghymru ac wedi dangos bod gennych y gwerthoedd, y sgiliau a'r hyfforddiant cywir i fod yn weithiwr gofal cymdeithasol.
Nawr gallwch elwa o’r buddion niferus o ymuno â'r Gofrestr
• Yn gyntaf, bydd gan bobl ffudd ynoch chi gan wybod eich bod chi'n dilyn y Côd.
• Gall defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd ddibynnu ar weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig.
• Gall gyflogwyr ddarparu'r gefnogaeth a'r datblygiad sydd eu hangen arnoch chi.
• Byddwch yn derbyn Canllawiau Ymarfer sy'n benodol i'ch rôl chi.
• Bydd gwybod mwy amdanoch chi yn helpu Gofal Cymdeithasol Cymru i gynllunio ffyrdd i'ch cefnogi chi.
• Fe'ch gwahoddir i ddigwyddiadau, cynadleddau ac ymgynghoriadau.
Mae cofrestru am hyd at dair blynedd gyda ffi blynyddol. Ar ôl hynny bydd angen i chi adnewyddu, neu bydd eich cofrestriad yn darfod sy'n golygu y bydd eich enw'n cael ei dynnu o'r Gofrestr ac ni allwch ymarfer yn gyfreithiol yng Nghymru.
Bydd eich cais am adnewyddiad ar gael i chi ei gwblhau ar eich cyfrif ar-lein SCW.
Yma gallwch hefyd ddiweddaru unrhyw newidiadau fel eich cyfeiriad, manylion swydd, gwybodaeth bersonol a phroffesiynol a thalu eich ffioedd.
Gallwch hefyd ddefnyddio GGC ar-lein i gadw cofnod cyfoes o'ch datblygiad proffesiynol parhaus.
Am fwy o wybodaeth ewch i GCCarlein.Cymru.