Fy enw fi yw Peter Hornik. Mae fy swydd yw gweithiwr gofal preswyl i blant. Angerdd yw efallai’r peth pwysicaf wrth weithio yn y sector yyma achos dyna sy’n mynd â chi yn eich blaen. Achos dwi eisiau cael effaith. Dwi eisiau newid pethau. Dwi eisiau helpu. Mae gen i’r angerdd yn llosgi ynof fi.
Yn y cartref yma rydyn ni’n cefnogi plant iau. Mae’r plant hyn yn gorfod cael eu tynnu oddi ar eu rhieni yn anffodus er mwyn rhoi diogelwch a sefydlogrwydd iddynt. Rhaid i ni adeiladu perthynas gyda’r person ifanc o ddydd i ddydd.
Mae’n dibynnu ar y plant beth maen nhw’n hoffi ei wneud: weithiau gwnawn ni fach o hwyl wrth goginio, gwneud crempogau, cael hwyl yn y gegin ac dwi’n ceisio gadael iddyn nhw wneud cymaint ag y gallen nhw.
Mae’n bwysig iawn trosglwyddo sgiliau a gweithgareddau corfforol. Yn aml dyma ni’n codi’r helmed ac allan â ni ar gefn beic os yw’r tywydd yn braf.
Mae i gyd am sut i gyfathrebu, sut i sianneli’r egni i wneud newid ym mywydau’r bobl ifanc a dyma sy’n rhoi sbardun i fi: pryd dwi’n gweld llwyddiannau’r bobl ifanc mae’n codi fy nghalon.