Rydym yn deulu o bedwar. Fi, fy ngŵr a dau o blant - plant bach ac mae fy machgen bach yn blentyn anabl.
Cawson ni daliadau uniongyrchol tua blwyddyn yn ôl. Ymgeision ni pryd buodd yn fabi ond cawson ni ein gwrthod.
Ac wedyn, tua blwyddyn yn ôl cawson ni'r newyddion da bod y peth wedi mynd i banel a'u bod nhw wedi rhoi ychydig o oriau yr wythnos i ni.
Felly, maen nhw'n werthfawr iawn i ni - yr oriau hyn - achos maen nhw'n seibiant i ni.
Mae gennon ni gynorthwy-ydd personol arbennig sy'n dod draw.
Mae hi'n anghygoel gydag e. Maen nhw'n cael hwyl gyda'i gilydd. Mae e wir yn mwynhau mynd gyda'r gofalwr.
Maen nhw'n mynd i chwarae meddal, nofio, ffermydd - ar hyd y lle. Hwnnw sy'n cael dewis ble mae am fynd gyda'r gofalwr, felly mae'n drêt mawr iddo.