0:04
Bore da, bawb.
0:05
Mae’n 10 o’r gloch. Mae’n fore dydd Llun.
0:08
Croeso i ddiwrnod cyntaf Wythnos Diogelu.
0:11
Mae gynnon ni wythnos brysur a chyffrous o’n blaenau.
0:14
A lle gwell i ddechrau na
0:17
gyda lansio’r Fframwaith hyfforddi
0:19
dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol?
0:22
Fy enw i yw Lance Carver.
0:22
Fi yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Bro Morgannwg.
0:27
Gwnaeth Cymru benderfyniad cadarnhaol iawn
0:29
sawl blwyddyn yn ôl i ddatblygu un set
0:31
o weithdrefnau diogelu
0:33
i’w defnyddio ar draws y wlad.
0:36
Roedd ysgrifennu’r canllawiau yn un peth,
0:39
ond mae diweddaru ymarfer yn llawer anoddach.
0:43
Ac yn ystod datblygiad y gweithdrefnau,
0:45
fe glywsom am yr angen i hyfforddi a datblygu win gweithlu.
0:50
Mae’r fframwaith hwn wir yn ein helpu i ategu’r safonau hyfforddi
0:53
sydd ar waith a dylai ein galluogi
0:55
i ddarparu ymarfer cyson o safon uchel
0:57
ledled Cymru.
0:59
Rwy’n ddiolchgar iawn am y gwaith sylweddol
1:00
a wnaed i'w ddatblygu
1:01
gan arweinwyr asiantaethau a
1:04
chydweithwyr rhanbarthol o bob cwr o Gymru.
1:07
I ddechrau
1:08
hoffwn rannu neges gan Tony Young
1:10
o’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.
1:16
Bore da.
1:17
Fy enw i yw Tony Young, i’r rhai sydd ddim yn fy adnabod.
1:20
Rwy’n Gadeirydd ar Fwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru.
1:24
Ro’n i’n falch iawn o gael y gwahoddiad i ddweud gair
1:27
i agor lansiad fframwaith dysgu
1:30
hyfforddi a datblygu diogelu Cymru heddiw.
1:34
O’m safbwynt i
1:35
fel Cadeirydd y Bwrdd Annibynnol Cenedlaethol
1:38
ni allai amseriad eich lansiad fod wedi bod yn well.
1:41
Rwy’n dweud hyn gan fy mod
1:44
newydd fod yn cyflwyno’r sylwadau cloi
1:47
mewn gweithdy bord gron
1:50
gyda thua 40 o uwch-arweinwyr o amrywiaeth eang
1:53
o asiantaethau a disgyblaethau diogelu.
1:56
Diben y gweithdy hwnnw oedd ystyried canfyddiadau
2:00
adolygiad thematig Cymru gyfan o’r adolygiadau
2:03
ymarfer plant diweddaraf i gael eu cwblhau ledled Cymru
2:08
33 ohonynt i gyd.
2:09
Felly sylfaen tystiolaeth dda iawn
2:11
o ran safonau ymarfer.
2:13
Yn gynharach eleni, comisiynodd y
2:15
Bwrdd Cenedlaethol yr adroddiad hwn
2:17
gan yr Athro Michelle McManus
2:19
o Brifysgol Metropolitan Manceinion
2:22
a’r teitl yw “Risk Response and Review”.
2:25
elly rwy’n cymryd y cyfle hwn i dynnu sylw at yr adroddiad a’ch
2:27
annog i’w ddarllen.
2:28
Dylai bod yna ddolen rhywle yn eich bocs sgwrsio.
2:32
Gobeithio y gallwch agor yr adroddiad yn syth.
2:36
Fel y gallwch ddisgwyl, mae’n adroddiad pwysig dros ben.
2:39
Fyddwch chi ddim yn synnu bod dysgu,
2:41
hyfforddi, datblygu a materion cysondeb ymarfer
2:43
cysondeb hyfforddiant a goruchwyliaeth
2:46
yn flaenllaw a chanolog
2:48
yn yr adroddiad a’i argymhellion
2:51
mae yna unarddeg ohonynt
2:54
i gyd.
2:56
Mae cefnogaeth hefyd yn flaenllaw a chanolog
2:57
yn ei ystyr ehangaf.
3:00
Cefnogaeth i’r ymarferwyr rheng flaen eu hunain
3:03
o ran amser pwrpasol i fyfyrio ar ymarfer
3:07
o ran dysgu
3:08
ac o ran elwa ar oruchwyliaeth
3:10
ymarfer gwybodus.
3:13
Roedd y rhain i gyd yn cael eu gweld yn gynhwysion allweddol
3:15
i arferion da, yn ogystal ag i gadw staff
3:16
yn yr hinsawdd anodd iawn
3:19
sydd ohoni.
3:21
Ac yna’n drydydd, mae’r ffaith bod rhwymedigaeth ar yr holl asiantaethau
3:24
i ddangos cyfrifoldeb cyfunol i sicrhau cysondeb cryf
3:29
ac effeithiol o ran dysgu a gweithgarwch
3:32
ac ymarfer, yn gwbl allweddol.
3:36
Yn absenoldeb fframwaith dysgu, hyfforddi a datblygu diogelu,
3:39
ni fyddai craidd y canfyddiadau hyn yn debygol
3:40
o dderbyn sylw systematig ar draws Cymru gyfan
3:44
ar draws yr holl asiantaethau
3:49
sy’n gweithio i’r un telerau
3:54
neu hyd yn oed o fewn pob disgyblaeth berthnasol.
3:59
Am amser hir iawn
4:00
bu llawer ohonom yn annog datblygiad fframwaith
4:02
fel yr un rydyn ni’n siarad
4:05
siarad amdano heddiw.
4:07
A dyma ni, flwyddyn ers lansio’r safonau hyfforddi
4:10
nawr rydyn ni’n lansio’r gwaith newydd hwn sy’n cyd-fynd â nhw
4:14
y fframwaith newydd, sy’n amlwg yn bwysig dros ben.
4:17
Rydyn ni’n clywed am forâl isel yn rhy aml yng Nghymru
4:23
neu mewn gwasanaethau plant neu oedolion.
4:27
Yn aml iawn gellir cyfiawnhau hyn oherwydd yr anawsterau
4:30
rydyn ni’n eu cael wrth recriwtio a chadw gweithwyr.
4:33
Ond mae’r fframwaith hwn yn enghraifft dda o beth gellir ei gyflawni
4:36
drwy gydweithio effeithiol ar draws Cymru.
4:40
Gobeithio y cewch chi ddigwyddiad cynhyrchiol a fydd yn eich sbarduno
4:43
wrth i chi wynebu heriau
4:46
eich swyddi bob dydd.
4:47
Diolch yn fawr iawn.
4:49
Soniodd Tony am adroddiad y dylech allu
4:58
ei weld drwy glicio ar ddolen yn y sgwrs.
5:01
Felly dyna ni. Mae’r cyfan yno.
5:03
A nesaf, mae gynnon ni gyflwyniad gan Esyllt Crozier
5:08
o Gofal Cymdeithasol Cymru.
5:10
Drosodd atat ti felly, Es.
5:13
ESYLLT: Bore da, a chroeso i lansiad y fframwaith dysgu,
5:16
hyfforddi a datblygu
5:19
diogelu cenedlaethol.
5:24
Mae’r fframwaith hwn yn gysylltiedig â’r safonau diogelu.
5:27
Er mwyn ein hatgoffa, dwi am esbonio pam wnaethon ni ei greu.
5:31
Nawr, y prif resymau oedd cysondeb hyfforddiant ledled Cymru,
5:35
ansawdd yr hyfforddiant
5:39
ac er mwyn annog hyfforddiant
5:42
dysgu a datblygiad amlasiantaeth.
5:44
Fe wnaethon ni hynny drwy sefydlu grŵp datblygu
5:49
a dod â’r holl bartneriaid allweddol o amgylch y bwrdd
5:53
ogystal â phartïon eraill,
5:57
sy’n bwysig iawn hefyd o ran diogelu.
6:01
Cafodd y safonau eu lansio yn ystod Wythnos Diogelu 2022.
6:05
Felly union flwyddyn yn ôl.
6:07
Fe anfonon ni holiadur fis Medi eleni
6:10
i weld sut roedd y gwaith o weithredu’r fframwaith yn dod yn ei flaen.
6:13
Fel gyda phob proses weithredu, roedd
6:17
yna fân broblemau ar y dechrau.
6:20
Fe ddywedoch eich bod yn hoffi
6:24
bod y safonau’n glir.
6:26
Roeddech chi’n hoffi’r ffordd roeddent wedi’u gosod, a’r iaith a ddefnyddiwyd.
6:29
Roeddech chi’n hoffi’r ffaith bod yna nodau ar gyfer pob grŵp
6:33
o ran y grwpiau ymarferwyr.
6:35
Rydych chi’n hoffi’r grwpiau staff eu hunain, o ran yr esboniadau amdanynt
6:39
a phwy oedd ym mhob grŵp
6:42
a beth oedd eu cyfrifoldebau.
6:44
Roeddech chi’n teimlo bod yna gysondeb o ran
6:47
y disgwyliadau gan bob grŵp staff
6:51
ac roeddech chi’n hoffi’r egwyddorion cofiadwy
6:55
sef y tri phwynt a nodwyd ar ddechrau pob grŵp o ran yr egwyddorion
6:58
ar gyfer y grŵp staff penodol hwnnw ynghylch beth oedd angen iddynt ei wybod am ddiogelu.
7:03
Rhai o’r heriau a nodwyd gennych oedd argaeledd hyfforddiant diogelu
7:06
y lefel o hyfforddiant ar gyfer pob grŵp
7:12
ac a oedd hyn yn gywir neu’n bosibl i’w nodi
7:14
ar draws Gymru.
7:19
Mynegwyd sawl pryder ynghylch Grŵp B a maint y grŵp staff
7:21
a oedd yn gweithredu yn Grŵp B
7:28
ac roedd rhai pryderon ynghylch Grŵp C o ran y gwahanol lefelau
7:30
o wybodaeth a fyddai’n ofynnol
7:33
ar gyfer ymarferwyr Grŵp C.
7:36
Mynegwyd pryderon hefyd am argaeledd adnoddau
7:39
a sut i ddiwallu yr anghenion gwahanol hyn yn ogystal
7:44
ag argaeledd hyfforddwyr eu hunain i ddarparu’r hyfforddiant
7:47
sydd ei angen i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â’r safonau.
7:53
Felly, pwrpas y fframwaith sy’n cael ei lansio heddiw
7:56
yw mynd i’r afael â rhai o’r materion a godwyd
7:58
o ran eglurder anghenion hyfforddiant.
8:01
Mae’r fframwaith yn nodi disgwyliadau hyfforddwyr
8:05
grwpiau staff a chyflogwyr yn fanwl iawn.
8:11
Y pwrpas y tu ôl i hyn yw darparu fframwaith
8:13
ar gyfer hyfforddi, darparu a gweithredu.
8:18
Felly ar gyfer pwy mae e a sut mae ei ddefnyddio?
8:21
Ar gyfer unrhyw un a phob un sy’n rhan
8:23
o hyfforddiant diogelu.
8:26
Fe’i cynlluniwyd i helpu i weithredu’r
8:28
safonau a darparu mwy o eglurder.
8:31
Mae’n bwysig ei ddefnyddio ochr yn ochr â’r safonau.
8:35
Nid yw’n ddogfen i’w darllen ar ben ei hun.
8:37
Dylid ei ddefnyddio ochr yn ochr â’r safonau,
8:40
i ddeall y gofynion hyfforddi
8:42
ar eich cyfer chi ac eraill.
8:47
O ran y grwpiau ymarferwyr,
8:49
maent wedi’u datgan yn y fframwaith,
8:52
ac mae’n nodi’n glir iawn pwy sydd yn y grŵp
8:54
ac mae hyn yn cyd-fynd â’r safonau
8:56
o ran pa gymwyseddau a fyddai gan y bobl
8:58
yn y grŵp hwnnw.
9:00
Mae’n cyflwyno’r egwyddorion cofiadwy
9:02
a beth ddylent ei wybod o’r safonau.
9:05
Felly mae hynny’n cael ei dynnu’n uniongyrchol i’r fframwaith.
9:09
Mae yna canlyniadau dysgu penodol o dan bob is-grŵp,
9:11
pethau i bobl eu hystyried
9:13
mewn perthynas â hyfforddiant ac yna manylion
9:15
y maes hyfforddi dysgu a datblygu
9:18
sy’n cynnwys oriau, deunydd gloywi a
9:22
beth fyddai arbenigedd
9:25
y grŵp staff hwnnw.
9:31
O ran y camau nesaf, yn dilyn lansio’r
9:35
fframwaith heddiw
9:36
a’r cwestiynau a’r ymholiadau anochel
9:39
a fydd yn dilyn y lansiad
9:42
rydyn ni’n gobeithio gwneud rhywfaint o waith ychwanegol
9:47
yng nghynllun gwaith y flwyddyn nesaf.
9:49
Bydd hyn yn cynnwys adolygiad o becyn hyfforddi
9:51
ymwybyddiaeth o ddiogelu Cymru gyfan
9:54
sydd i’w gael ar ein gwefan.
9:56
Ac felly bydd hyn yn sicrhau cydymffurfiaeth
9:57
â Grŵp B y safonau a byddai hynny’n
9:59
adnodd i hyfforddwyr.
10:02
Nid yw hwn yn adnodd i unigolion.
10:04
Mae’n adnodd i hyfforddwyr ei ddefnyddio
10:06
wrth ddarparu hyfforddiant.
10:08
Byddwn hefyd yn meddwl am gynhyrchu deunyddiau
10:10
hyfforddi cyffredinol ar gyfer Grŵp C.
10:13
Felly ni fyddai hyn yn cynnwys yr holl
10:15
hyfforddiant gwahanol sy’n ofynnol yn Grŵp C.
10:18
Dim ond ar gyfer yr hyfforddiant cyffredinol fyddai hyn,
10:22
sef y gofyniad deuddydd cyntaf ar gyfer
10:24
yr holl staff yn Grŵp C.
10:28
Y gobaith yw cynhyrchu deunyddiau hyfforddi cyffredinol
10:31
ar gyfer Grŵp C.
10:33
Dyma fydd y gofyniad deuddydd cyntaf
10:37
ar gyfer yr holl staff yn Grŵp C.
10:41
Rydym hefyd yn gobeithio edrych ar ddigwyddiadau hyfforddi’r hyfforddwr.
10:44
Byddwn yn siarad â’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol
10:47
yn uniongyrchol am y rhain
10:49
a byddant yn cael eu darparu fesul rhanbarth.
10:53
Byddai’r fframwaith ei hun yn cael ei ychwanegu at
10:55
broses adolygu barhaus y safonau.
10:58
Ac fel rhan o’r gwaith parhaus hwn,
11:01
y broses o adolygu’r safonau,
11:05
rydyn ni’n gobeithio sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen
11:08
i adolygu’r adborth o’r arolwg
11:10
ac edrych ar
11:11
Grŵp B a Grŵp C yn fanylach
11:14
o ran y materion a godwyd.
11:21
Felly, diolch yn fawr.
11:27
Diolch i chi am hynny.
11:30
Ac mae’n debyg, fel y byddech chi wedi’i ddisgwyl
11:33
ac fel y cafodd ei amlygu yn y cyflwyniad rwy’n meddwl
11:36
rydym wedi derbyn nifer o ymholiadau am y fframwaith.
11:39
Felly mae Esyllt a Cheryl Stevens yn mynd i ymuno
11:43
â fi nawr am sesiwn holi ac ateb.
11:46
Felly rwy’n meddwl fy mod i’n mynd i drosglwyddo pethau i un ohonyn nhw.
11:53
Diolch
11:54
Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau’r lansiad hyd yn hyn.
11:56
Rydyn ni’n mynd i gael sesiwn holi ac ateb yn awr yn seiliedig
12:00
ar rai o’r cwestiynau cyffredin
12:03
a anfonwyd atom ni gan y sector.
12:06
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach yn dilyn y sesiwn hon
12:11
e-bostiwch safonaudiogelu@gofalcymdeithasol.cymru
12:15
Rwy’n credu bod y cyfeiriad e-bost yn mynd i gael ei roi yn y sgwrs
12:17
er mwyn i bawb allu ei ddefnyddio
12:18
a bydd y cwestiynau yn cael eu hystyried gennym ni
12:22
ac aelodau’r grŵp datblygu
12:24
a byddwn yn postio’r atebion ar y wefan o dan
12:27
yr adran Cwestiynau Cyffredin sydd yn dilyn y fframwaith.
12:30
Iawn. Felly heb fwy o oedi,
12:32
fe atebwn ni’r cwestiynau sydd gennym ni’n barod.
12:35
Cwestiwn un – “Ble alla i gael hyfforddiant?”
12:40
A Cheryl, fy nghydweithiwr i, sy’n mynd i ateb.
12:43
Diolch, Es.
12:46
Felly mae’r safonau wedi’u cynllunio i
12:49
i fod yr un fath ar draws yr holl asiantaethau ac, felly,
12:51
mae hyfforddiant amlasiantaeth yn cael
12:54
ei annog bob amser.
12:56
Mae gan eich cyflogwr gyfrifoldeb i ddarparu hyfforddiant
12:59
sy’n berthnasol i’ch swydd a’ch cyfrifoldebau.
13:04
Nid yw Gofal Cymdeithasol Cymru yn nodi darparwyr hyfforddiant
13:08
ond bydd y Byrddau Diogelu Rhanbarthol
13:10
yn gallu eich cynghori ar hyfforddiant.
13:13
Os ydych chi’n aelod o
13:13
Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
13:17
efallai y gallwch gael gwybodaeth am
13:19
hyfforddiant ganddyn nhw.
13:21
Mae yna rai timau gweithlu yn yr awdurdodau
13:23
lleol a allai helpu o bosibl.
13:28
Gwych, diolch Cheryl.
13:32
Yr ail gwestiwn yw
13:34
“Sut ydyn ni’n gwybod bod yr hyfforddwr yn ddibynadwy?”.
13:37
Ac eto, croeso i Cheryl ateb y cwestiwn hwn hefyd.
13:41
Iawn, mae yna bethau penodol i edrych amdanyn nhw sy’n nodi’r
13:45
safonau hyfforddi yn yr atodiadau
13:47
sydd gyda’r fframwaith hyfforddiant.
13:49
Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth, profiad a gallu’r hyfforddwyr
13:52
y byddech chi’n chwilio amdanynt
13:54
ar gyfer pob digwyddiad hyfforddi neu ddatblygu.
14:00
Mae angen i hyfforddwyr fod yn ymarferwyr profiadol
14:03
neu’n hyfforddwyr cymwysedig
14:05
a dylent feddu ar wybodaeth ymarferol helaeth
14:07
am ddiogelu o gefndir perthnasol.
14:10
Er enghraifft, o faes iechyd a gofal cymdeithasol,
14:13
gwaith cymdeithasol, gwaith ieuenctid
14:17
addysg efallai neu’r heddlu a’r system cyfiawnder troseddol.
14:20
Swyddogaeth y bobl sy’n comisiynu neu’n cyflogi’r hyfforddwyr
14:22
yw sicrhau eu bod yn addas a chymwys
14:26
i gwblhau’r hyfforddiant.
14:28
A chyfrifoldeb yr hyfforddwr yw sicrhau
14:31
yw sicrhau bod yr hyfforddiant yn gydnaws â’r safonau.
14:37
Felly rwy’n mynd i newid rolau nawr
14:40
a fi sydd am ofyn y ddau gwestiwn nesaf.
14:43
Felly, cwestiwn tri:
14:45
“Sut rydyn ni’n gwybod beth sy’n hanfodol ym mhob grŵp
14:48
a beth y gellir ei deilwra i bob grŵp staff?”
14:51
ac rwy am ofyn i Esyllt ateb y cwestiwn hwn, os gwelwch chi’n dda.
14:58
Diolch, Cheryl.
14:59
Felly, mae’r safonau a’r deilliannau dysgu yn y fframwaith
15:01
i gyd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ymarferwyr
15:04
yn gymwys o ran eu gwybodaeth a’u sgiliau ymarferol.
15:07
Gall sefydliadau ychwanegu at ddysgu eu gweithlu.
15:10
Ni ddylem leihau neu ddileu unrhyw rannau.
15:14
Bydd ymarferwyr yn cwblhau datblygiad proffesiynol parhaus
15:16
yn benodol i’w cefnogi gyda’u rolau
15:19
a'u cyfrifoldebau
15:21
Felly, er enghraifft, mae gwarchodwyr plant a gweithwyr cymdeithasol
15:24
yn Grŵp C.
15:25
Edrychir ar rolau pob grŵp o ran pethau fel amser
15:28
heb oruchwyliaeth gyda phobl, lefel ymreolaeth,
15:32
yr angen am sgiliau asesu a lefel cyfrifoldeb.
15:37
Efallai y bydd angen i warchodwyr plant a gweithwyr cymdeithasol gwblhau’r un
15:39
hyfforddiant Grŵp C cyffredinol
15:42
yna byddai’r gweithiwr cymdeithasol yn mynd ymlaen
15:43
i gwblhau cyfres gyfan o hyfforddiant arall
15:45
na fyddai’n rhaid i’r gwarchodwyr plant ei wneud.
15:48
Ni ddisgwylir i un digwyddiad hyfforddi ddarparu’r holl
15:52
ddysgu y byddai person ei angen.
15:55
Mae’n bwysig cofio bod y dysgu
15:58
yn barhaus a chynyddol.
16:03
Diolch, Esyllt.
16:04
Cwestiwn pedwar yw
16:06
“Pam mae cymaint o bobl yn perthyn i Grŵp B?”
16:10
ac alla i ofyn i Esyllt ateb os gwelwch chi’n dda?
16:15
Mae’r cwestiwn hwn yn ymddangos yn
16:17
yn aml mewn trafodaethau.
16:19
Felly, y realiti yw bod gan y rhan fwyaf o’r gweithlu
16:22
sy’n cefnogi plant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd
16:25
rolau a chyfrifoldebau sy’n perthyn i Grŵp B.
16:28
Dyma yw’r sefyllfa ac mae’n bwysig nodi mai
16:31
dyma’r prif lefel o gysylltiad
16:33
rhwng y gweithlu a’r bobl
16:34
sy’n derbyn gofal a chymorth
16:35
neu ymyriadau eraill gan
16:37
asiantaethau eraill.
16:39
Os gawn ni’r hyfforddiant, y dysgu a’r datblygu’n iawn
16:41
i’r grŵp hwn yn benodol
16:43
bydd y llwybr wedi’i osod ar gyfer gweddill taith ddysgu’r unigolyn
16:47
hwnnw drwy ei oes weithio.
16:51
Iawn, dyma’r cwestiwn olaf
16:55
ac mae’n un pwysig iawn.
16:58
Sef: “Sut allwn ni sicrhau bod nifer o asiantaethau’n cefnogi hyn
17:01
ar lefel leol neu ranbarthol?”
17:03
Rwy am ofyn i Lance ateb hwn os gwelwch chi’n dda.
17:07
Diolch, Es.
17:09
Ein disgwyliadau yw y bydd Byrddau Diogelu Rhanbarthol
17:12
yn cymryd cyfrifoldeb am hyn yn eu rhanbarthau.
17:15
Wedi’r cyfan, cafodd y Byrddau Diogelu Rhanbarthol
17:17
eu sefydlu a’u trefnu i hwyluso’r math hwn o waith
17:20
ac mae ganddynt gyfrifoldebau penodol i sicrhau
17:23
bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar draws yr holl asiantaethau.
17:28
Fodd bynnag, rwy’n realistig ac rydym yn gwybod bod hyn
17:31
yn gallu bod yn anodd mewn adeg pan fo gwasanaethau
17:33
dan bwysau maw
17:35
ac yn wynebu anawsterau ariannol.
17:37
Ond mae pob sefydliad o amgylch y bwrdd diogelu rhanbarthol
17:40
yn gyfrifol am gyflawni hyn yn eu sefydliad.
17:44
Ac rydym yn gwybod hefyd bod hyfforddiant wedi’i drefnu’n dda
17:48
ac o safon uchel yn gwella ymarfer yn sylweddol.
17:51
Dylai hyn olygu, er gwaetha’r pwysau ariannol
17:53
a phwysau ar y gwasanaethau
17:55
ein bod yn treulio mwy o’n hamser cyfunol
17:57
yn ceisio ymyrryd yn broffesiynol
17:59
yn y ffordd fwyaf effeithiol
18:01
gan arbed amser i bawb yn y pen draw.
18:03
Felly fe fydden i’n cymeradwyo’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol
18:07
i wneud y gwaith hwnnw.
18:11
Iawn, dwi’n meddwl mai dyna ddiwedd
18:14
y sesiwn holi ac ateb.
18:17
Hoffwn ddiolch i Cheryl, Es a Tony
18:22
a dwi am eich gadael trwy eich atgoffa
18:24
o ba mor bwysig yw hyn.
18:26
Mae’r fframwaith yn gyfle amlasiantaeth i gadarnhau
18:29
ymarfer da iawn.
18:31
Gwyddom ein bod ni ar ein cryfaf pan fyddwn yn cydweithio
18:34
fel gwahanol asiantaethau sy’n mynd i’r un cyfeiriad
18:36
a’n bod yn y sefyllfa orau i amddiffyn
18:39
y rhai rydym yn eu gwasanaethu.
18:41
Felly, rwy’n cyflwyno’r fframwaith i chi
18:44
ac yn edrych ymlaen at glywed sut mae’n cael ei weithredu
18:46
ledled Cymru yn y dyfodol.
18:48
Felly diolch yn fawr iawn
18:51
a hwyl fawr gan bawb ohonon ni.