00:07
Haia, Deb?
00:08
Ie.
00:08
Dawn ydw i. Wnaethom ni trafod ar y ffôn yn gynharach.
00:13
O ie, helo. Dewch i mewn.
00:14
Diolch. Wnaf i ddangos fy I.D i chi y tu mewn.
00:21
Fel dywedais i ar y ffôn, 'da ni wedi cael adroddiad heddlu am beth ddigwyddodd diwrnod o'r blaen.
00:26
Hoffech chi ddweud wrtha i beth ddigwyddodd?
00:30
Wel fe ddigwyddodd rhywbeth yn y tŷ, oedd Peter a fi wedi cwympo mas. A wedyn pan es i i weud wrth y plant fod bwyd yn barod,
00:44
doedden nhw ddim yna. Roedden nhw wedi mynd mas heb ofyn, sy'n anarferol.
00:48
So es i lawr i'r parc i edrych amdanyn nhw, ag oedd Llyr yna,
00:52
gyda gang o fois sai'n lico fe'n botheran gyda, ond stori arall yw hyna.
00:56
Wedodd e doedd e ddim yn gwybod ble oedd Megan, a doeddwn i methu ffeindio hi,
01:01
felly wnes i ffonio'r heddlu wedyn.
01:04
Daeth yr heddlu mas, a ffeindio hi yn nhŷ John. Felly doedd pethau ddim mor drwg â oeddwn i'n meddwl.
01:12
Felly yn nhŷ John oedd Megan. Pa mor aml ydy hi'n mynd at John?
01:17
Braidd byth. Ond roeddwn i'n grac achos bod hi wedi mynd mas heb ofyn.
01:23
Dim ond wyth ydy hi, mae'n gwybod bod hi ddim yn cael mynd mas heb ofyn.
01:28
Pam ydych chi'n meddwl bod y plant wedi mynd allan heb ofyn?
01:32
Wel roedden nhw'n upset achos bod ni'n ffraeo.
01:39
Felly y ffrae oedd wedi achosi i'r plant adael y tŷ.
01:44
Ga i ofyn, am beth oedd y ffrae?
01:50
Dim byd i wneud gyda'r plant. Arian.
01:53
Does byth digon o arian gyda ni, ond dyna beth sy'n achosi i'r rhan fwya o bobl i ffraeo onid yw e?
01:58
Ie. Ga i ofyn, beth sydd yn eich poeni fwyaf o safbwynt ariannol?
02:04
Lot o bethau. Ond mae hwna yn breifat onid yw e.
02:10
Dwi'n deall hynny. Ni ond wedi siarad ar y ffôn unwaith, ac mae'n lot i ddisgwyl i chi agor i fyny gyda fi.
02:17
Dyma'r tro cyntaf i ni cyfarfod fel hyn. Felly dwi'n deall hynny yn iawn.
02:25
Dwi yma heddiw i'ch helpu chi ffeindio allan beth ydych chi'n meddwl sydd wedi bod yn digwydd.
02:31
Beth sydd yn fuddiol i chi fel teulu ac fel rhieni, a dwi yma i ffeindio ffordd
02:39
i'ch helpu chi edrych ar eich cryfderau chi, eto fel rhieni ac fel teulu, a gweithio ar rain.
02:45
Dwi yn deall ei fod yn anodd iawn i siarad gyda rhywun chi newydd cyfarfod,
02:48
ac yn y sefyllfa yma. Ond dwi wir yma i'ch helpu chi.
02:53
Bydde fe'n syniad da i ni drafod beth sy'n gweithio pan rydych chi yn y sefyllfa yna, a beth sydd ddim yn gweithio.
03:03
Ac fe gewn ni drafod pam. Ydy hyna yn iawn efo chi?
03:08
Wel i fod yn onest, fi ddim yn deall pam fod y gwasanaethau cymdeithasol yma o gwbl.
03:13
Fi'n deall pam oeddech chi'n poeni am Megan pan aeth hi ar goll, ond mae popeth yn iawn nawr.
03:20
Gwneith e ddim digwydd eto, so fi jest ddim yn deall pam bod chi yma.
03:24
Dwi'n deall bod Megan adre ac mae hi'n ddiogel ar hyn o bryd.
03:28
Ond mi oedd yr heddlu wedi codi'r ffaith eich bod chi ddim yn gwybod lle oedd y plant ar y pryd.
03:34
Ac rydyn ni wir eisiau gwneud yn siwr bod hyn ddim yn digwydd eto.
03:38
Ac rydyn ni eisiau meddwl am beth sy'n mynd i ddigwydd os gewch chi ffrae arall.
03:42
Felly bydde fe wir yn help os allwch chi ddweud wrtha i am beth wnaethoch chi ffraeo?
03:46
Jest ffrae am arian oedd e, 'na gyd. Dim byd i wneud gyda'r plant.
03:55
Beth sydd wedi arwain at y problemau ariannol yma? Ydy e'n rhywbeth newydd?
04:02
Na. Sai'n gweithio ar hyn o bryd, so mae llai o arian yn dod i mewn.
04:08
Sdim digon o arian gyda ni i wneud unrhyw beth. Ac wedyn mae Pete yn mynd yn flin.
04:13
A ni am fynd ar wyliau hefyd, ond ti methu gwneud popeth ar incwm isel.
04:17
Fi sydd fel arfer yn trefnu'r arian,
04:20
ond, mae Pete jest yn claddu'i ben yn y tywod.
04:27
Oeddech chi'n sôn am wyliau, bydde chi'n hoffi dweud mwy am hynny?
04:31
Wel dim ond gwyliau byr ni am,
04:34
ac wedyn ni'n talu'r deposit, a ni'n dechrau cynilo
04:38
ond wedyn mae rhaid i fi ddefnyddio'r savings yna i brynu pethau fel bwyd.
04:42
Felly os ydw i wedi deall yn iawn, rydych chi'n teimlo fod y straen ariannol arnoch chi yn bennaf,
04:48
ac eich bod chi yn trio cynilo i wneud rhywbeth neis,
04:54
ond bod yr arian yn gorfod mynd ar bethau pob-dydd a bod hyn yn achosi llai o amser teulu?
05:01
Ydy. Achos ni methu wneud pethau neis gyda'n gilydd,
05:05
ac mae Pete yn gweithio oriau hir yn y ffactori felly duw e ddim yn gweld y plant.
05:09
Bydde fe'n rili neis iddyn nhw wneud rhywbeth neis gyda'i gilydd hefyd.
05:14
Ond, mae'n swnio'n hawdd fi'n gwybod, ond
05:15
duw e ddim. Ac fi'n gwybod fod lot o bobl yn yr un sefyllfa.
05:21
Felly ydy o'n iawn i mi ddweud fod eich sefyllfa ariannol chi yn achosi straen ar eich perthynas chi?
05:28
Fel cwpwl ac fel teulu?
05:31
Ar hyn o bryd mae Llyr yn llond llaw hefyd.
05:35
Os yw e am dynnu yn groes, mi wneith.
05:38
Mae o'n swnio'n anodd iawn.
05:41
Mae e'n casáu fi.
05:44
Oes yna adegau pan mae Llyr yn ymddwyn yn wahanol?
05:49
Ma fe'n iawn gyda phawb arall. Ma fe'n iawn yn yr ysgol.
05:53
Felly ydych chi'n teimlo mae atoch chi mae'r ymddygiad yn cael ei chyfeirio, fel mam?
05:59
O yn bendant. Bendant. Mae e'n ofnadwy ar hyn o bryd.
06:06
Sut mae e hefo aelodau eraill o'r teulu, eich mam a'ch tad er enghraifft?
06:11
Iawn. Jest bod e ddim yn gweld nhw yn aml.
06:15
Y peth yw, ma fe am fod mas gyda'i ffrindiau onid yw e. Ac os ydw i'n dweud nad yw e'n cael mynd,
06:20
mae o'n colli ei dymer, felly, mae e jest yn rhwyddach i adael iddo fe fynd. Mae o'n hunllef.
06:28
Ydych chi'n gallu sôn am ryw adeg lle oedd eich perthynas chi a Llyr yn wahanol?
06:34
Cyn yr arddegau.
06:36
Beth oedd yn digwydd pryd hynny?
06:39
Wel oedd e'n gwneud unrhyw beth oeddwn i'n gofin iddo fe wneud. Ond nawr mae e jest yn colli ei dymer.
06:46
Duw plant pawb ddim fel hyn. Weithiau rwy'n meddwl fod rhywbeth yn bod arno fe.
06:52
Falle bydde fe'n well i bawb 'se chi jest yn ei roi e mewn gofal.
06:56
O beth rydyn ni wedi bod yn trafod heddiw, dwi ddim yn meddwl eich bod chi wir eisiau iddo fe fynd mewn i ofal.
07:02
Ond dwi'n deall eich bod chi am i'r ffraeo stopio, a bod e ddim yn colli ei dymer yn enwedig o flaen Megan.
07:07
A hefyd bod e yn stopio torri pethau o gwmpas y tŷ. Ydw i'n iawn?
07:12
Ie. Fi wedi trio popeth i stopio fe, ond fi wedi methu. Ti ddim yma pan ei fod yn gwneud e.
07:20
Fi jest wedi cael digon.
07:24
Dwi'n deall fod hyn wedi bod yn anodd iawn i chi.
07:29
Felly dwi'n meddwl fasa fe'n syniad da i chi a fi greu rhyw fath o gynllun diogelwch, gyda'n gilydd.
07:36
Felly dyma'r cynllun mi fyddwn ni yn edrych ar, gyda'n gilydd.
07:42
Beth sy'n digwydd pan mae pethau'n dda i chi fel teulu?
07:46
A beth sy'n digwydd pan dydy pethau ddim yn mynd cweit mor dda?
07:52
A'r gobaith fydd bod mwy o bethau da yn digwydd, a llai o gyfnodau anodd.
07:57
Iawn?