0:00
Yn Elm, da'n ni'n cefnogi preswylwyr hefo diagnosis o anabledd dysgu a autism.
0:06
Mae llawer hefo complex needs hefyd, a'r rhan fwya' yn non-verbal.
0:12
Mae yna ddau preswylwyr Cymraeg iaith gyntaf yn byw yn Elm.
0:16
Unwaith iddyn nhw symud fewn, nes i sylweddoli
0:19
faint mor bwysig oedd cael yr iaith Gymraeg i fewn.
0:24
Cyn hynna, doedd na ddim Cymraeg yn y cwmni, yn MHC (Mental Health Care UK), yn Elm o gwbl,
0:29
a jyst o dan dwy flynedd yn ôl, dyna pryd i ni gychwyn y daith yma.
0:35
Dwi'n meddwl bod o'n bwysig i fi yn bersonol, achos bod fi'n Gymraeg,
0:40
ond hefyd, fatha professional.
0:43
Dylse bod y preswylwyr Cymraeg yn cael y
0:45
iaith Gymraeg, fatha bo fi'n cael e adre.
0:48
So, o ni'n cychwyn y broses dwy flynedd yn ôl efo Social Care Wales,
0:52
a'r peth cyntaf o'n i angen neud oedd
0:54
asesu'r staff i weld be' oedd sgiliau Cymraeg nhw.
0:58
Roedd llawer o staff yn dweud bod gennyn nhw ddim sgiliau Cymraeg.
1:01
Ond o'n i ddim yn siwr, o'n i'n meddwl mai mwy o hyder, mwy na dim byd.
1:08
Ar ôl gwneud yr asesiad, allan o 38 o aelodau staff,
1:14
dau oedd gynna'i oedd yn confident yn siarad Cymraeg.
1:20
So, o'n i'n gwybod syth bin oedd gynna'i lot o waith i wneud achos oedd dau aelod o staff,
1:25
un yn fi, ddim yn ddigon i gefnogi y preswylwyr sydd gennym ni.
1:30
O'n i'n stryglo fy hun achos o'n i methu rhoi lot o amser i gefnogi nhw.
1:36
O nhw angen rhywun oedd yn Gymraeg i gefnogi nhw trwyddo fe.
1:39
Ac o'n i'n stryglo i roi'r amser iddyn nhw.
1:42
So wedyn ddaru Tryfan ddod on board blwyddyn diwethaf,
1:46
ac mae hynna jyst 'di newid pob peth yn Elm.
1:50
'Da ni wedi mynd o ddim llawer o staff yn
1:53
gallu siarad y basic Gymraeg o 'bore da' i 'ti ishe diod?'
1:58
rwan, ‘dy’n ni wedi increasio fo mewn blwyddyn i 83%,
2:03
lle mae bob aelod y staff yn gallu siarad Cymraeg hefo'r preswylwyr.
2:07
Os mae hynny yn 'amser cawod' i 'sut wyt ti', 'wyt ti mewn poen' i cael full conversations efo nhw.
2:15
Beth wnaeth fy nghyffroi i pan ddes i am fy nghyfweliad,
2:19
o'n i'n gallu gweld bod gymaint o bethau dwyieithog
2:21
ar y waliau, bon nhw wedi gwneud ymdrech fawr.
2:24
Yn ogystal â hynny dyma fi'n sylwi bod lot o'r gwaith papur oedd ar gael,
2:28
bod 'na neges clir iawn yn deud bod hwnna ar gael
2:31
drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg,
2:34
a odd hwnna’n wych.
2:35
Dwi wedi gweithio yng Nghymru ar hyd fy oes,
2:37
a 'di gwneud pob math o swyddi gwahanol.
2:39
Ond dwi 'rioed 'di teimlo bod y cwmni ei hun yn
2:42
yn gwneud gymaint o ymdrech i fuddsoddi yn yr iaith.
2:45
Ac yn aml iawn rydych chi'n gallu teimlo pan rydych chi’n gweithio i gwmnioedd mawr
2:50
bod chi'n teimlo ychydig bach fel estron yn gwlad eich hunan,
2:53
mai chi sydd yn y lleiafrif yn hytrach.
2:57
Felly mae o yn anhygoel o deimlad i ddod i le
3:00
lle mae nhw yn hybu'r iaith i bwynt
3:03
lle ti'n teimlo gyment o fodlonrwydd dros yr iaith.
3:07
Mae o'n gwbl wych be maen nhw wedi llwyddo i greu.
3:11
A dwi'n gallu gweld y gwahaniaeth yn barod
3:13
drwy sgiliau mae ei gweithwyr ni wedi derbyn
3:17
ac yn cael y gallu i ymarfer y sgiliau yna.
3:20
A rydyn ni’n gweld mwy o newidiadau drwy'r amser bod ni'n cynnig Cymraeg yn gyntaf.
3:25
Cymraeg yn gyntaf ydy'r polisi sydd yn clymu'n daclus
3:31
iawn mewn efo'r ffaith bod ni'n cynllunio i'r unigolion,
3:33
pan ‘dy’n ni’n cynllunio sut i greu plans i'r unigolyn ei ddilyn,
3:39
bod y ffocws ar yr unigolyn fel petai.
3:45
Mae defnyddio mamiaith neu iaith gyntaf rhywun, drwy hynny yn beth pwysig iawn.
3:50
Yn Elm mae ganddo ni ddau breswylwr sy'n dod o deuluoedd Cymry Cymraeg.
3:57
Cymraeg ydyw iaith gyntaf nhw er bod nhw'u hunain yn non-verbal.
4:01
Mae processing speed nhw gyment yn gyflymach drwy gyfrwng y Gymraeg.
4:06
Felly gyment a phosib, da ni yn paru nhw efo aelodau staff sy'n naill ai'n rhugl,
4:10
neu 'di datblygu Cymraeg i lefel maen nhw'n gallu defnyddio pethau'n hyderus.
4:15
Pethau mor syml a gofyn os ydyn nhw eisiau paned,
4:18
cynnig gweithgareddau gwahanol iddyn nhw
4:23
yn defnyddio’r geiriau Cymraeg yn hytrach na’r geiriau Saesneg.
4:26
A 'dych chi'n gweld y gwahaniaeth ynddyn nhw. Pan ddechreuais i yn y swydd am y tro cynta,
4:31
a fi'n dod mewn, oedd un o'r preswylwyr sy'n dod o deulu Cymry Cymraeg
4:36
yn edrych yn swil yn y gornel, yn defnyddio ei iPad.
4:42
A fi'n dod mewn a dymuno bore da, a dyma ei wyneb yn goleuo.
4:45
Oedd yna ryw newid tu fewn, lle oedd e'n sydyn yn meddwl
4:49
dyma fy iaith i, dyma iaith y cartref.
4:51
Mae'n ddiddorol gweithio mewn swydd efo preswylwyr,
4:57
achos da ni'n ystyried y peth yn weithle, ond cartref 'di o'n gynta,
5:02
a iaith cartref y ddau preswylwyr yma oedd Cymraeg.
5:07
Mae rhywbeth cyfforddus iawn ynglyn â chael dy famiaeth.
5:12
Dwi wedi gweld andros o wahaniaeth yn y ddau preswylwyr Cymraeg
5:15
ers i ni increasio’r iaith Gymraeg yn Elm.
5:19
Un stori a senario sy'n aros efo fi bob tro ydy
5:23
oedd 'na un yn andros o anxious un diwrnod.
5:27
Oedd o’n cael ei gefnogi gan aelod staff Saesneg.
5:31
Oedd o’n trio siarad efo fo, trio relaxio fo.
5:33
Oeddet ti'n gallu gweld bod pethau ddim yn dda,
5:35
sgwydda i fyny, body language ddim yn gret.
5:38
Oedd yr aelod staff Saesneg methu mynd drwodd iddo fo.
5:43
Munud nesaf, aelod staff Cymraeg yn dod fewn, just gently squeezed in,
5:49
cychwyn siarad Cymraeg efo fo, ac oedd o fatha click, jyst
5:55
syth bin, body language yn newid, sgwydda jyst yn relaxio,
5:59
oedd o’n gwybod syth bin beth oedd angen neud i regulato ei hun.
6:04
Dwy flynedd yn ôl, o'n i ddim yn gwybod be i wneud efo'r iaith Gymraeg i fod yn onest.
6:08
O’n i'n teimlo fatha o'n i mewn twll.
6:11
O'n i'n isio gwneud gwahaniaeth, ond o'n i ddim yn gwybod lle i gychwyn.
6:15
Bod hefo Social Care Wales, a gwneud y prosiect efo Social Care Wales,
6:19
wedi gwneud andros o wahaniaeth i fi.
6:22
A dwi'n meddwl, os mae rhywun isio gwneud hyn hefyd, go for it.
6:27
Rho'r gwaith caled i mewn achos mae wedi bod yn galed,
6:30
dy’n ni wedi cael challenges.
6:32
Ond mae o wedi newid bywyd preswylwyr Cymraeg fi.
6:37
Mae o di newid Elm, mae Elm rwan yn bilingual service,
6:42
a dwi'n mor prowd o hynna.
6:44
Ond mwy na Elm, dwi wedi pwsho fo allan i Mental Health Care UK hefyd.
6:50
Mae Highfield Park, y seit yma, i gyd rwan yn gweithio ar yr iaith Gymraeg.
6:55
Cysylltwch â Social Care Wales ac ewch ar y prosiect.