Mae anawsterau’n codi wrth werthuso’r effaith o ddysgu a datblygu mewn gofal dementia ar lesiant pobl sydd â dementia am fod nifer o wahanol bethau yn gallu effeithio ar lesiant.
Peidiwch ag anelu at berffeithrwydd. Yn hytrach, datblygwch ddulliau gwerthuso sy’n ddigon da yn eich golwg chi a’ch partneriaid. Casglwch wybodaeth o fwy nag un ffynhonnell am fod tystiolaeth yn fwy dilys os yw wedi’i seilio ar wybodaeth o nifer o ffynonellau.
Mae asesiad effaith da:
- yn mesur yr effaith ar draws system gofal ranbarthol, yn ogystal â’ch sefydliad eich hun. Dylech ganolbwyntio ar ganlyniadau llesiant a phrofiad pobl o ofal. Lle da i ddechrau yw datblygu datganiadau llesiant ac asesu newidiadau yn agweddau meddwl staff
- yn ystyried anghenion amrywiol y boblogaeth sydd â dementia
- yn rhoi sylw i ffactorau allanol eraill a allai effeithio ar y canlyniadau llesiant a’r profiad o ofal sy’n cael ei adolygu. Er enghraifft, newidiadau o ran ariannu, newidiadau mewn staffio a newidiadau mewn pecynnau gofal
- yn canolbwyntio ar farn pobl sydd â dementia, eu teuluoedd a’r bobl sy’n eu hadnabod orau, ac yn myfyrio ar beth sy’n gweithio’n dda a hefyd beth sydd angen ei wella
- yn trefnu bod pobl sy’n fedrus wrth gyfathrebu â phobl sydd â dementia a’u teuluoedd yn gofyn am adborth ganddynt
- yn mesur newid dros amser, gan gofnodi agweddau a phrofiadau pobl ar wahanol gamau ar y llwybr gofal dementia.
Os bydd asesiadau effaith yn cael eu gwneud yn dda, byddant yn cymell staff i wneud eu gorau. Byddant:
- yn canolbwyntio ar beth sy’n gweithio a beth ellid ei wella, ac maent yn canmol llwyddiant
- yn nodi problemau o ran diogelwch a llesiant, ac yn eu datrys drwy fod yn onest ac agored yn hytrach na beio neu godi teimlad o ofn methiant.
Mae nifer o ffyrdd i gynnwys pobl. Er bod lle i holiaduron ac arolygon, cafwyd tystiolaeth gynyddol am y manteision o ddefnyddio storïau naratif mewn gwerthusiadau.
Casglwch wybodaeth o nifer o wahanol ffynonellau a pharchwch farn a storïau pawb sy’n cymryd rhan, yn cynnwys pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.
Dylech ddatblygu dull o fesur effaith y gellir ei gysylltu â Ffrwd Waith 5b yn y safonau gofal dementia (mesur).