Sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol i bobl yng ngrŵp 3 sydd eisiau gweithio ac arwain mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau.
Gall arweinwyr mewn gofal cymdeithasol ddefnyddio dulliau seiliedig ar gryfderau i wella, mesur a monitro ansawdd ymarfer yn eu sefydliad.
Pwy sydd yn y grŵp hwn
Mae'r grŵp hwn yn cynnwys pobl sy’n:
- cynllunio, prynu neu wella gwasanaethau
- arwain eraill
- gweithio ar bolisïau
- rheoli contractau
- goruchwylio ansawdd ar lefel sefydliadol.
Gallan nhw fod yn:
- gyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr gwasanaeth
- arweinwyr y gweithlu
- reolwyr comisiynu
- Unigolion Cyfrifol.
Gwybodaeth
Nid oes angen i arweinwyr fod yn arbenigwyr mewn ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau i ddechrau gweithio gyda chryfderau. Ond, gall fod yn ddefnyddiol i bobl yn y grŵp hwn i:
- ddeall deddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a sut mae'n hyrwyddo llais, dewis a rheolaeth pobl
- deall egwyddorion allweddol ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a pham rydyn ni’n eu defnyddio
- deall sut mae ymarfer seiliedig ar gryfderau yn cefnogi newid diwylliant mewn sefydliadau
- gwybod sut y gall prosesau helpu eu sefydliadau i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau
- ddeall y polisïau a'r canllawiau sy'n cefnogi arferion sy'n seiliedig ar gryfderau yn eu sefydliad
- cydnabod y pethau yn eu sefydliad sy'n ei gwneud hi'n anodd gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau, a sut i weithio gydag eraill i oresgyn y rhain.
Sgiliau
Gall arweinwyr mewn gofal cymdeithasol gefnogi diwylliannau sy'n seiliedig ar gryfderau trwy:
- modelu dulliau sy'n seiliedig ar gryfderau a dulliau tosturiol o weithio
- cael sgyrsiau am 'beth sy'n bwysig' gyda'u cydweithwyr
- meithrin perthnasoedd cryf, dibynadwy a pharchus drwy:
- ymgysylltu'n amyneddgar â'r person ar ei lefel
- canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig
- bod yn sensitif i’w hangenhion a’u profiadau bywyd
- darganfod posibiliadau gyda'r person hwnnw (a elwir hefyd yn 'evoking')
- cynllunio gyda 'r person yn hytrach nag i'r person.
- cael sgyrsiau anodd mewn ffordd dosturiol
- sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn cyd-fynd â, ac yn annog, arferion sy'n seiliedig ar gryfderau
- datblygu systemau a phrosesau o ansawdd sy'n hyrwyddo arferion sy'n seiliedig ar gryfderau.
- gweithio gydag eraill i greu gweledigaeth ar y cyd o'r ffordd y bydd gwasanaethau'n gweithio
- monitro ansawdd y sefydliad yn unol ag arferion sy'n seiliedig ar gryfderau
- gwrando – ac eirioli dros – pobl eraill sy'n gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau
- eirioli dros a modelu’r ffordd hon o weithio gyda phartneriaid a sefydliadau eraill.
Cefnogaeth ar gyfer pobl yn y grŵp hwn
Os ydych chi’n bwriadu datblygu dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau ar draws eich sefydliad, gallwch ddechrau drwy gydnabod nad oes angen i chi fod yn arbenigwr yn y dull hwn o arwain.
Gallwn ni eich cefnogi chi a'ch sefydliad i ddechrau gweithio gyda chryfderau, a'ch helpu i gyflawni canlyniadau i'ch staff a'r bobl rydych chi'n eu cefnogi.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch cryfderau@gofalcymdeithasol.cymru