Sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol i bobl yng ngrŵp 2 sydd eisiau gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau.
Rydyn ni’n argymell bod rheolwyr a goruchwylwyr ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gyfarwydd â dulliau seiliedig ar gryfderau.
Mae goruchwylio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau yn hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i'w cydweithwyr a'r bobl y maent yn eu cefnogi.
Dylen nhw fod wedi gwneud popeth mewn hyfforddiant grŵp 1.
Pwy sydd yn y grŵp hwn
Mae'r grŵp hwn yn cynnwys unrhyw un sy'n rheoli neu'n goruchwylio rhywun arall.
Gallan nhw fod yn:
- reolwyr llinell
- arweinwyr tîm
- reolwyr gwasanaeth
- oruchwylwyr
- aseswyr ymarfer
- fentoriaid.
Gwybodaeth
Dylai pawb yn y grŵp hwn deall:
- egwyddorion allweddol ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a'u rôl mewn goruchwylio
- sut mae egwyddorion allweddol ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn hyrwyddo diwylliannau cadarnhaol a lles staff
- sut – ac os – mae polisïau a chanllawiau eu sefydliad yn cefnogi arferion sy'n seiliedig ar gryfderau mewn goruchwyliaeth
- pam ei bod yn bwysig i gynnal ymarfer a hyfforddiant rheolaidd.
Dylen nhw hefyd gwybod y modelau o ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau a'r ymchwil a'r dystiolaeth ddiweddaraf y tu ôl i'r rhain.
Sgiliau
Dylai pawb yn y grŵp hwn allu:
- defnyddio ymchwil mewn ymarfer bob dydd
- arwain drwy esiampl, a defnyddio arfer sy'n seiliedig ar gryfderau i reoli a goruchwylio staff
- recordio sesiwn oruchwylio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau
- meithrin perthnasoedd cryf, dibynadwy a pharchus gyda phawb y maen nhw’n gweithio gyda nhw, gan gynnwys y bobl y maent yn eu goruchwylio, drwy:
- ymgysylltu'n amyneddgar â'r person ar ei lefel
- canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig
- bod yn sensitif i’w hangenhion a’u profiadau bywyd
- meddwl am y posibiliadau ar gyfer y person hwnnw
- cynllunio gyda 'r person yn hytrach nag i'r person.
- cael sgyrsiau anodd mewn ffordd dosturiol – er enghraifft:
- wrth eirioli dros hawliau unigolyn pan nad yw pobl eraill yn cytuno
- yn ystod adolygiadau perfformiad.
- defnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau mewn sesiynau goruchwylio i gytuno ar ganlyniadau clir a darganfod beth sy'n eu cymell
- cefnogi cydweithwyr i ddeall cryfderau a risgiau a datblygu cynlluniau diogelwch
- monitro ansawdd gwaith eu tîm yn unol ag ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau
- defnyddio arferion sy'n seiliedig ar gryfderau i reoli gwasanaethau a gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys arolygwyr
- gwrando ar – ac eirioli dros – pobl eraill sy'n gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau.
Sut i gefnogi pobl yn y grŵp hwn
Gallwch gefnogi pobl yn y grŵp hwn drwy:
- weithio tuag at ddiwylliant cadarnhaol yn eich sefydliad
- weithio i werthoedd ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau.
Cyhoeddwyd gyntaf: 29 Ionawr 2025
Diweddariad olaf: 6 Chwefror 2025
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch