Jump to content
Ynglŷn ag arweinyddiaeth dosturiol

Egluro beth yw arweinyddiaeth dosturiol, pam ei bod yn bwysig a ble i gael mwy o wybodaeth.

Beth yw arweinyddiaeth dosturiol?

Mae arweinyddiaeth dosturiol yn ffordd o arwain pobl sy’n canolbwyntio ar bedwar ymddygiad:

  • cwrdd ag anghenion
  • deall
  • dangos empathi
  • helpu.

Gallwch ddysgu mwy am yr ymddygiadau hyn ar wefan Gwella.

Mae’n ymrwymiad i roi’r gefnogaeth iawn i bobl yn ein timau fel y gallan nhw ymateb yn effeithiol i heriau a ffynnu yn eu gwaith.

Nid oes rhaid i chi fod yn rheolwr i arwain gyda thosturi. Gall unrhyw un ar unrhyw lefel ddefnyddio'r pedwar ymddygiad.

Pan fyddwn yn arwain gyda thosturi, rydyn ni’n rhoi lles a datblygiad staff yn gyntaf.

Mae hyn yn golygu bod y bobl rydyn ni’n eu harwain yn gweithio mewn diwylliant sy’n gynhwysol, yn effeithiol ac yn bositif.

Pam mae arweinyddiaeth dosturiol yn bwysig?

Mae angen i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol gael diwylliant cefnogol gyda chyfeiriad clir ac anogaeth.

Mae arwain gyda thosturi yn rhoi’r cyfeiriad a’r anogaeth hynny iddyn nhw. Mae’n helpu ein timau i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu, fel y gallan nhw wneud eu gwaith gorau.

Mae angen gwytnwch a dewrder, ond mae arweinwyr tosturiol yn rhoi hyder i'w timau. Gall yr hyder hwnnw olygu bod timau yn:

  • cydweithio i gyrraedd yr un nod
  • gallu dysgu wrth gamgymeriadau yn y gwaith
  • cael eu cymell i wneud gwaith da
  • teimlo'n gyfforddus yn codi problemau i wella pethau
  • denu pobl â gwerthoedd tebyg i rolau newydd
  • cadw staff yn hirach oherwydd eu bod yn hapusach
  • yn dosturiol wrth bobl eraill.

Mae hyn yn golygu y gallwn gefnogi pobl i fyw'r bywyd gorau y gallan nhw drwy ofal a chefnogaeth well.

Gall fod yn heriol dechrau gweithio fel hyn ar ben gofynion eraill. Ond efallai eich bod chi’n gwneud rhai o'r pethau hyn yn barod a gall hyd yn oed camau bach gael effaith fawr.

Camau nesaf

Os ydych chi eisiau dechrau rhoi arweinyddiaeth dosturiol ar waith, ewch i’n tudalen ar egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol.

Cysylltwch â ni

Os hoffech siarad â ni am arweinyddiaeth dosturiol, e-bostiwch: datblygu.arweinyddiaeth@gofalcymdeithasol.cymru

Cyhoeddwyd gyntaf: 5 Mehefin 2024
Diweddariad olaf: 25 Mehefin 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (34.9 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch