Lledaenu - darlledu
Byddwn yn cefnogi awdurdodau lleol i flaenoriaethu pynciau, gan eu helpu i benderfynu ble mae angen tystiolaeth arnynt i’w hysbysu ar faterion cyfredol, neu gynllunio ar gyfer materion newydd a rhai sy’n dod i’r fei. Byddwn yn comisiynu crynodebau o dystiolaeth ac adroddiadau ymchwil lle ceir bylchau yn y dystiolaeth ac yn sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael arnynt. Byddwn hefyd yn hyrwyddo ymchwil o safon uchel sy’n berthnasol i ofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rydym yn datblygu gwefan i gefnogi pobl sy’n darparu gofal cymdeithasol a chymorth i gael gafael ar ymchwil, data a thystiolaeth o ansawdd uchel a’u defnyddio.
Rydym yn gweithio ar sicrhau mynediad i ymarferwyr at gyfnodolion ac ar ddod o hyd i ateb o ran atgyfeirio i ymchwil gofal cymdeithasol a dogfennau polisi ar gyfer Cymru. Ynghyd â’r porth data gofal cymdeithasol, bydd hyn yn rhan annatod o’r agweddau digidol ar ein cynnig tystiolaeth.
Cyfnewid - rhannu
Byddwn yn canolbwyntio ar gydweithio, fel y gallwn hyrwyddo cyfleoedd dysgu a rhannu gwybodaeth gan bartneriaid fel ExChange, Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) a Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP).
Byddwn yn meithrin ein cysylltiadau â sefydliadau ar draws y gwledydd eraill sy’n cynnig adnoddau a digwyddiadau gwybodaeth, megis y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE), Making Research Count, Iriss a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), gan sicrhau eu perthnasedd i Gymru bob amser.
Byddwn yn datblygu ac yn cynllunio digwyddiadau cyfnewid gwybodaeth gyda phartneriaid ac yn cefnogi’r gwaith o gynllunio a chyflwyno eu digwyddiadau.
Byddwn yn mynd ati’n ddyfal i ddefnyddio ein rhwydweithiau, ein gwefan
a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu i sicrhau bod cyfleoedd
dysgu yn hysbys ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn hytrach nag
i rai pobl wybodus yn unig.
Broceru – cysylltu pobl
Mae hwyluso cysylltiadau rhwng ymchwilwyr ac ymarferwyr yn flaenoriaeth bwysig i ni. Rydym wedi dechrau creu perthnasau drwy estyn allan at bob awdurdod lleol i greu darlun o’r strwythurau a’r prosesau sydd eisoes ar waith, i helpu i nodi’r hyn y gallwn ni ei wneud i gefnogi a galluogi datblygiad pellach a phartneriaethau. Rydym hefyd yn estyn allan at academyddion ac ymchwilwyr ledled Cymru, i wneud a chynnal cysylltiadau.
Mae’r prosiect hwn hefyd wedi cynnwys nodi hyrwyddwyr tystiolaeth ym mhob awdurdod fel y gallwn ni hwyluso rhwydwaith tystiolaeth. Bydd hyn yn dwyn ynghyd ymarferwyr ac arweinwyr ymchwil i rannu gwybodaeth a syniadau ac i hyrwyddo ac annog arferion a gyfoethogir gan dystiolaeth.
Byddwn hefyd yn datblygu cynnig cymorth ymchwil, gan hwyluso cymorth rhwng cyfoedion i ymarferwyr sy’n dechrau ar ymchwil academaidd neu’n ymgymryd ag ymchwil ymarfer yn eu lleoliadau gwaith.
Byddwn yn cyd-ddylunio ac yn cynnwys map ymchwil rhyngweithiol ar ein gwefan i helpu i gysylltu ymarferwyr yng Nghymru ag ymchwilwyr, gyda’r wefan yn cyfrannu at gefnogi’r cysylltiadau a’r rhwydweithiau hyn drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a thrafod ar-lein.
Cyd-greu – gwneud gyda’n gilydd
Byddwn yn cynnal ymarferion pennu blaenoriaethau gydag awdurdodau lleol i nodi lle mae angen tystiolaeth arnynt, gan ddefnyddio gwybodaeth ac adborth o’n rhwydweithiau a’n prosiect Mapio a Chysylltu. Byddwn yn hwyluso prosiectau ymchwil i ddatblygu offer ac adnoddau ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd ein pwyslais ar offer ac adnoddau sy’n hyrwyddo cyd-greu, megis cymunedau ymarfer, setiau dysgu gweithredol a dulliau gweithredu’r Rhaglen DEEP.
Rydym yn gweithio gyda’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth i sicrhau bod ein cynnig tystiolaeth yn gweithio’n dda i ddarparwyr gofal. I wneud hyn, byddwn yn defnyddio dull cadarnhaol sy’n seiliedig ar gryfderau i wrando ar leisiau gweithwyr gofal rheng flaen ac yn cydweithio â phartneriaid gan gynnwys ENRICH (‘Enabling Research in Care Homes’) Cymru a DEEP.
Byddwn yn ymgysylltu â sefydliadau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a gofalwyr i ‘brofi’ ein cynnig tystiolaeth gyda phobl sydd â phrofiad bywyd, gan adeiladu ar y gwaith rydym wedi’i wneud gyda gofalwyr i glywed eu barn ar y defnydd o ymchwil a data.
Capasiti a gallu - meithrin sgiliau
Mae meithrin y capasiti a’r gallu iawn yn y gweithlu gofal cymdeithasol yn sail i’n dull o ysgogi gwybodaeth ac yn ymateb i’r hyn a glywsom gan bobl heb fawr o hyder yn eu gallu i gael gafael ar dystiolaeth, ei chymhwyso a’i chynhyrchu.
Byddwn yn datblygu ffyrdd o helpu i uwchsgilio ymarferwyr i’w hannog i deimlo’n hyderus wrth wneud ymchwil. Un o’r ffyrdd y byddwn yn gwneud hyn yw drwy ddatblygu cwricwlwm ar gyfer DEEP. Bydd hyn yn cynnwys:
- meithrin sgiliau ar gyfer casglu, asesu a chyflwyno tystiolaeth
- siarad a dysgu gyda’i gilydd gan ddefnyddio tystiolaeth
- rhoi dysgu ar waith
- galluogi arweinwyr i greu amgylcheddau ar gyfer dysgu.
Rydym yn edrych ar sut y gellir cynnwys y cwricwlwm hwn, yn ogystal â mentrau meithrin gallu eraill, mewn cyfleoedd dysgu sy’n bodoli eisoes, yn enwedig y fframwaith ôl-gymhwyso gwaith cymdeithasol newydd.
Byddwn yn egluro’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi’r defnydd o dystiolaeth fel y gallwn ni nodi lle mae bylchau a mynd i’r afael â’r rhai sydd â chyfleoedd datblygu. Byddwn hefyd yn hyrwyddo mentrau meithrin capasiti sydd eisoes ar gael i ofal cymdeithasol, gan gynnwys yr hyn a gynigir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a CASCADE.