Jump to content
Iechyd ac addysg rywiol plant

Dysgwch fwy am sut y gallwch gefnogi iechyd ac addysg rywiol y plant rydych chi'n gofalu amdanoch

Pam y mae’n bwysig meddwl am ryw a pherthnasoedd ar gyfer y bobl ifanc sydd dan eich gofal?

Mae ar bob person ifanc angen gwybodaeth a chyngor am ryw a pherthnasoedd. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ddatblygiad corfforol, rhywioldeb, perthnasoedd iach, yn ogystal â chyngor iechyd rhywiol ac atal cenhedlu.

Rydym yn gwybod y gellir cael bylchau yn y wybodaeth am ryw a pherthnasoedd sydd gan bobl ifanc sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl a bod eu llesiant emosiynol yn gallu dylanwadu ar eu hagweddau a’u hymddygiad mewn cysylltiad â hyn.

Rydym hefyd yn gwybod bod y bobl ifanc rydych yn gofalu amdanynt yn llai tebygol o ddefnyddio dulliau atal cenhedlu a’u bod yn fwy tebygol o brofi beichiogrwydd cynnar na phlant eraill.

Bylchau mewn gwybodaeth am ryw a pherthnasoedd

Yn aml rhoddir taflenni am ryw a pherthnasoedd i blant sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl i blant. Nid yw’r rhain mor ymarferol a diddorol â gwersi ysgol sy’n dangos sut i wisgo condom, er enghraifft. Hefyd mae gwersi o’r fath yn gallu deffro chwilfrydedd plant a’u hysgogi i drafod ymysg ei gilydd.

Os bydd un o’ch pobl ifanc wedi colli gwersi ar ryw a pherthnasoedd yn yr ysgol, mae’n bosibl na fydd taflenni’n ddigon i’w gymell i ofyn rhagor o gwestiynau. Mae perygl wedyn y bydd bylchau yn ei wybodaeth.

Rydym hefyd yn gwybod bod tuedd gynyddol i blant a phobl ifanc gael eu haddysg rhyw ar y rhyngrwyd, yn aml ar wefannau pornograffig nad ydynt yn adlewyrchu bywyd go iawn.

Gofalwch eich bod yn teimlo’n gyfforddus wrth siarad am ryw a pherthnasoedd

Cofiwch fod pob aelod o’r staff yn unigolyn, yn union fel y plant rydych chi’n gofalu amdanynt. Gofalwch fod eich rheolwr ac aelodau eraill o’r staff yn gwybod pa mor bell rydych yn barod i fynd a pha mor gyfforddus ydych chi ynghylch trafod rhyw a pherthnasoedd â’r bobl ifanc. Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus ynghylch siarad am ryw neu rannau o’r corff, bydd yn well gofyn i aelod arall o’r staff sy’n fwy cyfforddus â hyn i gael y sgwrs hon â’r plentyn.

Efallai nad ydych yn glir ynghylch pa gyngor i’w roi a’ch bod yn poeni am gael eich gweld yn annog neu’n esgusodi gweithgarwch rhywiol ‘afiach’. Hefyd bydd gweithwyr proffesiynol weithiau’n osgoi trafod materion sy’n ymwneud â rhyw a pherthnasoedd â phobl ifanc am eu bod yn cymryd bod pobl eraill yn cwrdd â’r anghenion hyn.

Beth yw’r ffordd orau i chi helpu pobl ifanc mewn cysylltiad â rhyw a pherthnasoedd?

Mae’n bwysig i chi sicrhau bod y wybodaeth a rowch yn addas i’r plentyn, yn cael ei chyflwyno yn y ffordd briodol ac ar yr adeg briodol.

Bod ar gael

Rhowch wybod i’r bobl ifanc eu bod yn gallu dod atoch chi i gael gwybodaeth a chyngor. Hyrwyddwch drafodaeth onest ac agored. Ymatebwch i’r bobl ifanc heb farnu, ond gyda gofal a thosturi. Gadewch iddyn nhw wybod nad yw trafod rhyw a pherthnasoedd yn debygol o fod yn sgwrs ‘unwaith ac am byth’ a’ch bod chi ar gael i gynnig cymorth a chyngor drwy’r amser.

Cael eich arwain gan y person ifanc

Bydd y math o gymorth sydd ei angen ar bobl ifanc yn amrywio, fel y bydd eu dymuniadau o ran sut maent am gael y cymorth hwn a chan bwy. Rhowch wybod iddynt eich bod yn gallu eu helpu’n uniongyrchol neu eu helpu i gael gafael ar gymorth gan eraill. Mae’n bwysig peidio â rhagdybio dim am rywioldeb yr unigolyn a/neu faint ei wybodaeth a’i brofiad presennol.

Bod yn barod

Efallai y bydd angen i chi helpu’r person ifanc i gael gafael ar ragor o wybodaeth a chyngor. Meddyliwch am y gwahanol fathau o weithwyr proffesiynol a sefydliadau a all fod o gymorth a byddwch yn barod i drafod yr opsiynau hyn â’r person ifanc. Gall y rhain gynnwys:

  • y nyrs plant sy’n derbyn gofal ar gyfer y plentyn
  • ei feddyg teulu
  • clinigau iechyd rhywiol sydd ar gael yn lleol
  • sefydliadau i bobl LGBT+.

Hefyd dysgwch am y gwefannau a llinellau cymorth sydd wedi’u hanelu at bobl ifanc. Mae rhestr o adnoddau defnyddiol ar waelod y dudalen.

Bod yn wybodus

Mae cyfrinachedd, a’r terfynau iddo, yn debygol o fod yn ystyriaeth allweddol i bobl ifanc. Dysgwch am y gyfraith sy’n ymwneud â chydsynio, yn ogystal â pholisïau a gweithdrefnau sy’n gysylltiedig â rhyw a pherthnasoedd. Gall y rhain fod yn bolisïau sydd gan eich sefydliad chi, yn ogystal â phrotocolau cenedlaethol ar gyfer ymateb i bryderon am gam-drin a chamfanteisio rhywiol. Drwy fod yn glir am eich cyfrifoldebau proffesiynol ynghylch diogelu, byddwch yn gallu egluro’r cyfrifoldebau hyn i bobl ifanc.

Consent – it’s as simple as tea (Saesneg yn unig)

Mae fideos am bob math o faterion sy’n ymwneud â rhyw a pherthnasoedd ar sianel Childline ar Youtube (Saesneg yn unig)

Gofynnwch i’ch tîm am hyfforddiant ar faterion rhyw a pherthnasoedd os ydych yn credu y byddai hynny o gymorth.

Bod yn barod i ystyried datblygiadau newydd mewn ymarfer

Mae pobl ifanc yn ffynonellau gwybodaeth gwerthfawr a nhw sydd yn y lle gorau i’ch cynghori ar ffyrdd gwell i gynnig cymorth ynghylch rhyw a pherthnasoedd. Rhowch anogaeth iddyn nhw gymryd rhan mewn datblygu neu adolygu canllawiau ymarfer da.

Defnyddio’r enwau biolegol am rannau o’r corff

Dylech ddefnyddio’r enwau biolegol cywir am rannau o’r corff wrth siarad â’r plant a phobl ifanc rydych yn gofalu amdanynt (yn hytrach nag ailadrodd y termau slang y gallai’r bobl ifanc eu defnyddio). Mae hyn yn hollbwysig oherwydd, os bydd angen i sefydliadau fel yr Heddlu siarad â’r bobl ifanc am fater sy’n ymwneud â diogelu, er enghraifft, bydd angen i’r plentyn gyfeirio at yr enwau biolegol cywir am rannau o’r corff. Drwy wneud hynny, ni fydd unrhyw gamddeall ynghylch beth maent yn sôn amdano.

Adnoddau defnyddiol

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.

Cyhoeddwyd gyntaf: 13 Mawrth 2019
Diweddariad olaf: 10 Tachwedd 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (43.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch