Jump to content
Sesiwn Codau Ymarfer Proffesiynol i gyflogwyr
Digwyddiad

Sesiwn Codau Ymarfer Proffesiynol i gyflogwyr

Dyddiad
11 Mehefin 2026, 11am i 12pm
Lleoliad
Ar-lein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni wedi diweddaru ein Codau Ymarfer Proffesiynol yn ddiweddar. Rydyn ni'n gwahodd cyflogwyr i ymuno â ni ar gyfer sesiwn ryngweithiol i weld beth sydd wedi newid a beth mae’r diweddariadau hyn yn ei olygu i chi a’ch timau.

Ar gyfer pwy mae'r sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon ar gyfer pobl sydd â chyfrifoldeb fel cyflogwyr neu ar lefel gwasanaeth, gan gynnwys rheolwyr, dirprwy reolwyr, cyfarwyddwyr ac Unigolion Cyfrifol sy’n atebol am sicrhau bod staff yn deall ac yn cydymffurfio â’r Codau Ymarfer Proffesiynol newydd.

Cynnwys y sesiwn

Byddwn ni'n dechrau gyda throsolwg byr o’r prif newidiadau. Yna byddwn ni'n cymryd amser i glywed gennych ynghylch:

• sut rydych chi'n defnyddio’r codau mewn ymarfer o ddydd i ddydd
• pa ddulliau sy’n gweithio’n dda
• pa ganllawiau neu gymorth pellach a fyddai’n gwneud gwahaniaeth.

Mae’r sesiwn hon yn gyfle i rannu profiadau ar draws y sector, cryfhau’r ffordd y mae’r codau’n cael eu rhoi ar waith, a bydd yn helpu siapio’r offer a’r canllawiau a ddatblygwn nesaf. Bydd yr hyn y byddwn ni'n ei drafod yn helpu sicrhau bod ein hadnoddau’n adlewyrchu realiti darparu gofal a chymorth o safon uchel yng Nghymru.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhannu arfer da yn anffurfiol yn y sesiwn hon, rhowch wybod i ni yn codau@gofalcymdeithasol.cymru