Jump to content
Cwestiynau cyffredin am ein llwybr cofrestru asesiad gan gyflogwr

Rydym yn sefydlu llwybr cofrestru newydd a fydd yn caniatáu i gyflogwyr gymeradwyo cais eu gweithwyr i gofrestru ar ôl eu hasesu yn erbyn rhestr o gymwyseddau.

Darllenwch ein cwestiynau cyffredin am y newid hwn i gofrestru isod.

1. Beth yw’r llwybr cofrestru asesiad gan gyflogwr?

Llwybr newydd yw hwn sy’n caniatáu i gyflogwyr gymeradwyo cais gan eu gweithwyr i gofrestru ar ôl asesu eu dealltwriaeth yn erbyn rhestr o feysydd. Bydd y llwybr hwn ar gyfer pobl nad oes ganddynt gymhwyster gofynnol.

2. Sut penderfynon ni ar y rhestr o feysydd yn yr asesiad gan gyflogwr?

Yng ngoleuni’r pandemig, rydym wedi bod yn edrych ar ein prosesau a’n systemau i sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ein hymrwymiad i ddiogelu’r cyhoedd. Wrth i’r gweithlu gofal cymdeithasol barhau i dyfu, rydym yn gwybod pa mor bwysig ydyw i wneud ein proses gofrestru’n symlach er mwyn helpu annog pobl i weithio ym maes gofal cymdeithasol.

Gwrandaom ar y sector a defnyddio’r adborth a gawsom i lunio’r rhestr hon. Mae’r rhestr wedi’i seilio ar ddeall egwyddorion gofal cymdeithasol yng Nghymru, y bydd eu hangen ar weithiwr gofal cymdeithasol i gyflawni ei rôl. Dylech gynnwys y meysydd hyn yn y sesiwn sefydlu yn y gweithle.

Ar ôl cofrestru, bydd gweithwyr gofal cymdeithasol yn datblygu eu dealltwriaeth ymhellach trwy gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan. Bydd hefyd angen iddynt gwblhau’r cymwysterau a restrir yn y fframwaith cymwysterau o fewn tair blynedd.

3. A fydd yr Egwyddorion a’r Gwerthoedd a Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gael o hyd?

Byddant ar gael o hyd mae'r egwyddorion a gwerthoedd yn rhan un a dau or llyfrau o fewn Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan. Ni fydd gweithwyr yn gallu eu defnyddio I gofrestru o fis Hyrdef 2022 ymlaen.

4. A oes angen i weithwyr gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan o hyd?

Oes, bydd angen i bob gweithiwr gofal cymdeithasol gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan, ond nid yw'n ofynnol ar gyfer cofrestru gyda ni.

5. Beth fydd yn digwydd os ydw i wedi dechrau’r Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd?

O 1 Hydref 2022 ni fydd tystysgrif yn cael eu darparu wrth orffen y llyfrau gwaith egwyddorion a gwerthoedd.

Gallwch barhau i gwblhau'r llyfrau gwaith egwyddorion a gwerthoedd fel tystiolaeth ar gyfer y llwybr asesiad gan gyflogwr. Unrhyw weithiwr sydd ddim yn cwblhau ac ymgeision cyn 1 Hydref 2022 defnyddio'r gwair fel tystiolaeth i asesiad y cyflogwr.

6. Pwy all gofrestru gan ddefnyddio’r llwybr asesiad gan gyflogwr?

Unrhyw un sydd eisoes yn cael ei gyflogi gan ddarparwr gofal cymdeithasol rheoleiddiedig yng Nghymru fel:

  • gweithiwr cartref gofal i oedolion
  • gweithiwr gofal cartref
  • gweithiwr gofal preswyl i blant
  • gweithiwr cymorth mewn canolfan breswyl i deuluoedd. 

Mae’n rhaid i’r rheolwr fod yn hyderus bod y gweithiwr yn meddu ar y ddealltwriaeth angenrheidiol, a amlinellir yn yr asesiad gan gyflogwr.

7. Beth fydd yn digwydd os nad yw fy nghyflogai’n meddu ar y ddealltwriaeth briodol?

Os nad ydych yn hyderus bod y gweithiwr yn meddu ar y ddealltwriaeth briodol, peidiwch â chymeradwyo ei gais i gofrestru. Yn lle hynny, dylech weithio gyda’ch cyflogai i ddatblygu ei ddealltwriaeth fel ei bod ar lefel briodol.

Os bydd hyn yn cymryd mwy o amser na’r cyfnod sydd ganddo i gofrestru, cysylltwch â’n tîm cofrestru.

8. A fydd angen i weithiwr gofal cymdeithasol sy’n cofrestru gan ddefnyddio’r llwybr asesiad gan gyflogwr gwblhau cymhwyster cyn y gall adnewyddu ei gofrestriad?

Bydd angen i weithwyr gofal cymdeithasol sy’n defnyddio’r llwybr asesiad gan gyflogwr gwblhau’r cymwysterau a restrir yn y fframwaith cymwysterau o fewn tair blynedd.

9. Os bydd rhywun yn cofrestru gan ddefnyddio’r llwybr hwn ac yn newid cyflogwr, a fydd ei gofrestriad yn ddilys o hyd?

Bydd. Mae asesiad gan gyflogwr yn fodd i weithwyr gofrestru, a bydd y cofrestriad hwn yn ddilys am dair blynedd. Nid yw cofrestriad yn gysylltiedig â sefydliad; cofrestriad personol ydyw.

10. Pa dystiolaeth sy’n angenrheidiol ar gyfer yr asesiad gan gyflogwr?

Rydym wedi llunio rhestr o’r hyn y mae angen i weithwyr gofal cymdeithasol ei ddeall, ac y mae’n rhaid i’r rheolwr ei asesu.

Defnyddir y rhestr i gadarnhau bod y gweithiwr gofal cymdeithasol yn meddu ar y ddealltwriaeth briodol. Efallai byddwn yn archwilio samplau ac yn gofyn am gopïau o’r dystiolaeth a ddefnyddioch i wneud eich penderfyniad. Gwneir hyn er mwyn i ni fod yn fodlon bod gweithwyr yn addas i’w cofrestru.

Gallai rheolwyr sy’n rhoi gwybodaeth anwir fod yn destun achos addasrwydd i ymarfer ac fe allent gael eu dileu o’r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol o ganlyniad. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn rhoi gwybod i ni os oes ganddi unrhyw bryderon am gymhwysedd unigolyn cofrestredig.

11. Sut mae rheolwr cofrestredig yn asesu a chadarnhau dealltwriaeth gweithiwr gofal cymdeithasol?

Pan fydd y rheolwr a’r gweithiwr yn fodlon bod pob maes wedi’i fodloni, a bod y dystiolaeth wedi cael ei hamlygu, gall y gweithiwr wneud cais i gofrestru.

Bydd angen i’r gweithiwr ddewis y llwybr asesiad gan gyflogwr ar ei gais a dethol ei reolwr cofrestredig.

Anfonir neges e-bost at y rheolwr yn gofyn iddo fewngofnodi i’w gyfrif GCCarlein a chwblhau’r datganiad yn electronig.

Dyma fideo canllaw cyflym i gyflogwyr i'w helpu i ddeall sut i reoli ceisiadau asesu cyflogwr rydym yn eu gwneud yn eu cyfrif GCCarlein.

12. Beth os nad oes rheolwr cofrestredig neu os yw’n absennol o’r sefydliad?

Yn absenoldeb rheolwr cofrestredig, mae’n rhaid i’r unigolyn cyfrifol ar gyfer eich sefydliad nodi unigolyn perthnasol i asesu a chadarnhau’r cais. Gallai hwn fod yn rheolwr Adnoddau Dynol neu hyfforddiant sydd â mynediad at gofnodion y gweithiwr gofal cymdeithasol. Nid oes angen i’r unigolyn perthnasol fod wedi’i gofrestru, ond bydd angen iddo ddod yn llofnodwr ar gyfer y sefydliad. Bydd ein tîm cofrestru yn gallu eich helpu gyda hyn.

13. A oes terfyn ar nifer y gweithwyr a all ddefnyddio’r llwybr asesiad gan gyflogwr o unrhyw sefydliad unigol?

Nac oes.

14. A yw datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn berthnasol?

Ydyw. Mae’n rhaid i bob gweithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig gwblhau 45 awr o hyfforddiant a dysgu DPP bob tair blynedd.

Gall gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig gadw cofnod o’u hyfforddiant a’u dysgu yn eu cyfrif GCCarlein personol. Fe’u hanogwn i’w ddiweddaru wrth iddynt gwblhau eu hyfforddiant a’u dysgu. Bydd hyn yn gwneud y broses adnewyddu’n gyflymach ac yn haws o lawer iddynt.

15. Gyda phwy y dylwn i gysylltu os bydda’ i eisiau rhoi adborth ar y llwybr cofrestru asesiad gan gyflogwr?

Byddwn yn adolygu’r llwybr asesiad gan gyflogwr yn yr hydref. Os oes gennych unrhyw adborth arno, anfonwch neges e-bost atom ar llwybradborth@gofalcymdeithasol.cymru.

Os oes arnoch angen cymorth i gofrestru aelod o staff neu gymeradwyo cyflogai, cysylltwch â’n tîm cofrestru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 14 Chwefror 2022
Diweddariad olaf: 29 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (49.5 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch