Mae ein hadroddiad blynyddol yn crynhoi'r prif feysydd cynnydd a gyflawnwyd yn y drydedd flwyddyn lawn o’r strategaeth.
Adroddiad blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru 2023 i 2024: Cyflawni yn ystod cyfnodau heriol
Ym mis Hydref 2020, ynghyd ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, fe wnaethon ni lansio Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i gefnogi’r gwaith o weithredu strategaeth Cymru Iachach.
Mae’r sector gofal cymdeithasol yn parhau i wynebu nifer o heriau sydd wedi’u gosod yng nghyd-destun heriau ariannol sylweddol a thanariannu'n hanesyddol. Byddwn yn parhau i deimlo effeithiau pandemig Covid-19 am flynyddoedd i ddod ac mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith negyddol ar gymunedau.
Mae heriau mawr o ran y gweithlu yn y sector gofal cymdeithasol hefyd. Mae’n anodd denu a recriwtio staff a chadw’r gweithlu presennol. Mae hyn yng nghanol y galw cynyddol am wasanaethau plant a gwasanaethau oedolion, oherwydd poblogaeth sy’n heneiddio ac awydd pobl i fyw’n hirach gartref.
Mewn ymateb i’r anawsterau hyn, byddwn ni’n parhau i roi’r cymorth sydd ei angen ar y gweithlu a chyflogwyr, drwy weithio’n gyflym i weithredu’r ymrwymiadau a nodir yn y strategaeth gweithlu.
Er gwaethaf yr heriau parhaus hyn, rydyn ni wedi gwneud cynnydd yn ystod 2023 i 2024, ein trydedd flwyddyn lawn o gyflawni’r strategaeth. Dylid dathlu’r llwyddiannau a’r gwelliannau hyn.
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi’r prif feysydd cynnydd a gyflawnwyd yn ein rhaglenni gwaith yn ystod 2023 i 2024, ynghyd â’n gwaith mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC.)
Mae’r strategaeth gweithlu yn darparu camau gweithredu ar draws yr holl wasanaethau a lleoliadau, ond mae’r adroddiad hwn hefyd yn sôn yn benodol am y gweithgareddau a’r cynnydd yn erbyn pob un o’r cynlluniau gweithlu rydyn ni wedi’u datblygu ers lansio’r strategaeth gweithlu,sef:
- Cynllun gweithlu ar gyfer gwaith cymdeithasol
- Cynllun gweithlu gofal uniongyrchol
- Cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol
Llesiant, yr iaith Gymraeg a chynhwysiant yw llinynnau aur y strategaeth gweithlu, sy’n rhedeg drwy ein holl themâu a chamau gweithredu. Maen nhw’n parhau i chwarae rhan hanfodol yn y newid diwylliant sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau modern hanfodol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl Cymru.
Rydyn ni wedi gwneud y cynnydd hwn ar yr un pryd â gwneud gwaith ymgysylltu sylweddol. Gwnaethom ni ymgynghori ar gamau gweithredu a chynnwys cam nesaf y gweithredu, a arweiniodd at Gynllun Cyflawni’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2024 i 2027. Mae hyn yn unol â’n cyfnod adolygu ffurfiol cyntaf, fel yr addawyd yn y strategaeth wreiddiol.
Yn y dyfodol, byddwn yn gallu adrodd yn erbyn y Cynllun Cyflawni’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2024 i 2027 lle rydyn ni wedi nodi amrywiaeth o fesurau ansoddol a meintiol. Felly, bydd yr adroddiad blynyddol yn y dyfodol yn cynnwys adroddiad cynnydd o ran naratif a gwybodaeth feintiol.
Ein cynnydd yn 2023 i 2024
1. Gweithlu sy’n ymgysylltu, yn llawn cymhelliant ac yn iach
2. Denu a recriwtio
3. Modelau gweithlu di-dor
4. Adeiladu gweithlu sy’n barod yn ddigidol
5. Addysg a dysgu rhagorol
6. Arweinyddiaeth ac olyniaeth
7. Cyflenwad a siâp y gweithlu
Gwaith sydd ar y gweill
Byddwn yn datblygu’r meysydd gwaith canlynol ymhellach yn 2024 i 2025:
- gwneud gwaith ymchwil i ddeall yr heriau y mae asiantaethau yn eu hwynebu, gan edrych ar sut y gallwn eu cefnogi. Mae hyn yn cynnwys meithrin perthnasoedd a chreu adnoddau ar gyfer asiantaethau a chyflogwyr sy’n defnyddio staff asiantaeth, i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau rheoleiddio
- datblygu a chyflwyno fframwaith ôl-gymhwyso ar gyfer gwaith cymdeithasol
- adolygu’r canllawiau ‘Cydgrynhoi ymarfer – y tair blynedd gyntaf’ ar gyfer gwaith cymdeithasol
- gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i ddarparu hyfforddiant cynllunio’r gweithlu i adrannau gwasanaethau cymdeithasol mewn awdurdodau lleol
- nodi ac ystyried gyda phartneriaid cenedlaethol yr opsiynau sydd wedi’u costio ar gyfer model cenedlaethol o gymorth cynllunio’r gweithlu
- adolygu codau ymarfer, canllawiau ymarfer ac egwyddorion addasrwydd i ymarfer
- adolygu ein dull gweithredu a’n proses ar gyfer cofnodi Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) parhaus, i gefnogi pobl gofrestredig i gofnodi eu DPP yn hawdd, ac mewn ffordd hygyrch
- datblygu adnoddau cenedlaethol i’w defnyddio gyda Chymwysterau Sgiliau Hanfodol rhan 2
- edrych ar sut i wella llwybrau gyrfa a chynnig eglurder ynghylch hyfforddiant gorfodol, gofynion o ran cymwysterau a DPP
- cynnal asesiad o lythrennedd ac aeddfedrwydd digidol y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Casgliad
Fel sector, rydyn ni’n parhau i anelu at gyflawni uchelgais y strategaeth 10 mlynedd a byddwn yn parhau i gefnogi cydweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, rhwng sefydliadau lleol a chyrff cenedlaethol sy’n gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol.
Mae’r gwaith a gyflawnwyd yng ngham un ers lansio’r strategaeth wedi ein galluogi i ennill momentwm y gallwn adeiladu arno yn y dyfodol, yn unol â’n nodau tymor hirach.
Mae Cynllun Cyflawni’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2024 i 2027, yn amlinellu’r set glir o gamau gweithredu ar gyfer cam dau y gwaith o gyflawni’r strategaeth, er mwyn i ni allu parhau i gefnogi a datblygu’r gweithlu.
Gofal Cymdeithasol Cymru, Mehefin 2024