Mae'r ddyfais RITA ynddo'i hun yn
ddyfais flaengar iawn sy'n
cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.
Mae'n offeryn cyfathrebu y gallant ei
ddefnyddio i gefnogi eraill i'w deall nhw
ond hefyd mae'n offeryn rheoleiddio
ar eu cyfer.
Yng Nghymru, mae gennym
ni'r cynllun gweithredu dementia.
Mae gennym gryn dipyn o ddeddfwriaeth
sy'n ein gyrru i wneud gwelliannau
ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia.
Mae hyn wedi ein cefnogi i allu
cyflawni rhai o'r rheini yn Wrecsam.
Mae fy rôl yn ymwneud â rhoi'r
person yng nghanol popeth,
bob amser yn symud ymlaen.
Weithio gyda'r RITA,
yr ochr sy'n canolbwyntio
ar y person yn hynny
yw cael eu proffiliau personol,
i dechrau siarad â nhw,
darganfod eu hoff bethau a'u cas bethau,
gallu defnyddio rhai
gemau, fideos, atgofion ar
ffotograffau hefyd.
Rydyn ni'n gallu gweld
gyda nhw bob ochr bersonol i bethau
sy'n wahanol i bob person
unigol sy'n defnyddio'r
ddyfais RITA.
Rydyn ni'n gallu cymryd yr unigolyn
hwnnw, y person sy'n bodoli y tu ôl
i'r diagnosis.
Rydyn ni'n mynd â'r person hwnnw
gyda nhw drwy ambiwlans, i'r ysbyty
ac yn ôl eto, i sicrhau bod
staff yn gallu gofalu
am yr unigolion hynny yn y ffordd orau
bosibl sy'n canolbwyntio ar y person.
Os cawn nhw eu dadreoleiddio ar unrhyw adeg,
y peth pwysicaf y gallwn nhw ei wneud
yw edrych i mewn i’r adnodd cefn a mynd,
‘Mae hyn yn fy ngwneud yn hapus.’
felly mae’n ddull ystyrlon o gefnogi rhywun.
Rhoi nhw yn y canol.