LIZ:
[00:00:00] [Chwerthin]
[00:00:09] Helô, Liz ydw i, dwi’n bum deg dau neu’n chwe deg dau, y naill neu’r llall, ond dwi ddim yn gwybod achos mae’r rhifau wedi mynd.
[00:00:16] A dwi ddim yn eu cofio’n dweud eu bod nhw’n gadael.
[00:00:20] Dwi ddim yn gwybod faint o’r gloch aethon nhw am fod amser wedi mynd hefyd, felly mae gen i oriawr sy’n siarad.
[00:00:25] [Llais wedi’i recordio] [Mae’n dri sero dau].
[00:00:28] Mae dyddiadau wedi mynd ac mae diwrnodau wedi mynd, a phenblwyddi hefyd.
[00:00:33] Dwi ddim yn cofio pryd mae penblwyddi fy mhlant ac mae hynny’n brifo.
[00:00:42] Ond maen nhw’n gwybod, maen nhw’n gwybod ’mod i’n eu caru, dwi’n dal yma, dwi’n dal yn hapus ac fe allai pethau fod yn waeth o lawer.
[00:00:50] Dwi’n fam, dwi’n nain a dwi’n cerdded milgwn.
[00:00:58] Dwi’n ffrind da, gobeithio, ac yn hoffi cael hwyl.
[00:01:03] Dwi’n mwynhau jôc a dawnsio o amgylch y tŷ a chanu, er bod gen i lais ofnadwy.
[00:01:12] Fe alla i ddringo unrhyw goeden [chwerthin].
[00:01:16] Dwi ddim yn coginio erbyn hyn, sawl gram, sawl munud, dwi’n meddwl gaf i frechdan, bar o siocled.
[00:01:23] Dwi wedi cael dementia, dyw dementia ddim wedi fy nghael i.
[00:01:26] Nid cyflwr ydw i, nid salwch ydw i, nid afiechyd ydw i, nid symptom ydw i.
[00:01:32] fy enw i yw Liz, braf cwrdd â chi.