GWEITHIWR GOFAL:
[00:00:00] Mae hiraeth mor ofnadwy o bwysig i’r Cymry, a – sut alla i ddweud hyn – pwysigrwydd siarad â phobl am ble roedden nhw’n byw efallai.
[00:00:14] Efallai eu bod nhw wedi byw yn yr un tŷ am flynyddoedd lawer ac os oes lluniau yn eu hystafell, gallwch ddechrau sgwrs â nhw am sut le oedd eu cartref.
[00:00:25] Yr ardd, oedden nhw’n hoff o’r ardd? Blodau?
[00:00:29] Y manion hynny.
[00:00:32] Ond mae hiraeth yn beth ofnadwy.
[00:00:34] Allwn ni ddim gorbwysleisio pwysigrwydd y Gymraeg.
[00:00:39] Pan ddechreuwch chi siarad Cymraeg â rhywun, mae’n creu dolen gyswllt yn syth.
[00:00:48] Maen nhw’n fwy agored, ac mae pethau’n haws o lawer.
[00:00:51] Dwi wedi gweithio gyda gofalwyr eraill Saesneg eu hiaith a bydd pwy bynnag ry’ch chi’n ei helpu ac yn ei gefnogi’n gwybod yn reddfol pwy sy’n siarad Cymraeg.
[00:01:08] Mae’n haws o lawer cyd-dynnu.
[00:01:11] Mae pethau gymaint yn haws o wybod bod rhywun yn siarad Cymraeg.
[00:01:17] Mae’n creu cyswllt yn syth ac mae pethau’n haws o lawer.
[00:01:21] Mae pethau’n agosach, fel un teulu mawr Cymraeg, ac mae hynny’n hynod bwysig.
[00:01:30] Mae’n bwysig iawn cynnig dewisiadau i bobl a gofyn, er enghraifft, sut maen nhw’n hoffi eu te –
[00:01:40] Ydyn nhw’n cymryd siwgr. “Llaeth neu siwgr yn eich te?”
[00:01:48] “Pa mor gryf?”
[00:01:52] Cynnig dewis o brydau bwyd, llawer o bethau bach gwahanol.
[00:02:02] “Beth y’ch chi’n mo’yn wisgo y tro ’ma?” Dewis beth i’w wisgo, rhywbeth addas ar gyfer y tywydd.
[00:02:12] A chynnig dewis bob amser. Mynd at y wardrob efallai a meddwl, “Dewis, dewis beth mae’n mo’yn wisgo”.
[00:02:23] Cynnig dewis, efallai drwy roi’r dillad i hongian er mwyn i’r person gael pwyntio, a dweud, “Ie, dewis da”.