Ymarfer sy’n seiliedig ar werthoedd ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn yw’r ‘edafedd aur’ a ddylai redeg drwy’r holl weithgareddau dysgu a datblygu ar gyfer gofal dementia. Mae’r dull seiliedig ar werthoedd yn gweld bod pob unigolyn yn unigryw, â’i anghenion, dymuniadau a hunaniaeth ei hun.
Bydd angen deall y gwerthoedd craidd er mwyn datblygu dull seiliedig ar werthoedd. Mae hyn yn cynnwys:
- agweddau meddwl sy’n canolbwyntio ar gyd-ddealltwriaeth, caredigrwydd, empathi a bod yn ddewr. Dylid gweld y rhain yn werth craidd ac yn gam cyntaf tuag at ymarfer effeithiol
- gwrando a defnyddio’r synhwyrau, fel y bydd staff yn defnyddio beth maent yn ei weld, ei glywed a’i deimlo. Mae hyn yn helpu pobl sydd â dementia i gymryd rhan yn eu gofal
- gwybod bod geiriau’n bwysig a bod yn fedrus wrth ddefnyddio cyfathrebu seiliedig ar werthoedd. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo a defnyddio iaith sy’n hybu caredigrwydd, urddas, parch ac eiriolaeth
- hyder ymhlith staff bod ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i helpu pobl â dementia a’u teuluoedd i wynebu risgiau cadarnhaol a deall pam nad yw ymarfer sy’n osgoi risg yn beth da i bobl sydd â dementia a’u teuluoedd
- bod yn sensitif i amrywiaeth ddiwylliannol, ethnigrwydd, a chydraddoldeb. Mae hyn yn cynnwys osgoi stereoteipio a bod yn ymwybodol o’n rhagfarnau diarwybod a’n tueddiad i dynnu ar normau cymdeithasol rydym wedi’u dal yn hir ac sydd yn aml yn rhagfarnllyd
- annog staff i fyfyrio ar gydraddoldeb a thegwch, a sut mae cydberthnasau grym yn gallu arwain at anghydraddoldebau niweidiol (ymarfer gwrthormesol). Wrth wraidd myfyrio o’r fath y mae croestoriadedd, sy’n edrych ar bresenoldeb gwahaniaethu o lawer math.
Mae hunanymwybyddiaeth yn elfen bwysig wrth ddatblygu dull seiliedig ar werthoedd. Mae angen edrych arnom ni ein hunain er mwyn cydnabod, deall ac adnabod natur ein hagweddau rhagfarnllyd a gwerthoedd (gan wneud hynny mewn ffordd garedig a heb ein barnu ein hunain). Mae hyn yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cydnabod ein rhagfarnau a’u dylanwad posibl ar ein hymarfer. Dylai dulliau dysgu a datblygu roi’r gallu i ni edrych arnom ein hunain fel hyn.
Rhaid i ddiwylliant o ofal seiliedig ar werthoedd fod yn rhan annatod o waith sefydliadau, timau ac unigolion. Dylai ymarferwyr ar bob lefel gael eu parchu, eu cynorthwyo a’u grymuso i gydweithio i feithrin diwylliant o ofal seiliedig ar werthoedd. Mae gweithgareddau dysgu a datblygu yn gallu helpu i feithrin diwylliant o’r fath.