Os ydych chi'n dîm, grŵp neu sefydliad, dysgwch sut y gallwch ymgeisio ar gyfer y Gwobrau 2026
Pwy all ymgeisio ar gyfer y Gwobrau?
Mae'r Gwobrau’n agored i unrhyw dîm, grŵp neu sefydliad sy'n darparu gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Rydyn ni’n chwilio am geisiadau o bob maes – y sector gwirfoddol, preifat, cydweithredol a chyhoeddus. Gall y gofal a chymorth rydych chi’n ei ddarparu fod yn fach neu’n fawr, a gallwch chi fod yn gweithio gyda phlant, teuluoedd, oedolion neu ofalwyr.
Bydd ein beirniaid yn chwilio am brosiectau, timau a sefydliadau sy'n dangos ffyrdd newydd o weithio ac sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau’r bobl y maen nhw’n eu cefnogi.
Weithiau nid yw pobl yn sylweddoli pa mor drawiadol yw eu gwaith, felly os ydych chi'n gwybod am brosiect, tîm neu sefydliad sy'n gymwys, anogwch nhw i gymryd rhan.
Sut i ymgeisio
I wneud cais ar gyfer eich prosiect, tîm neu sefydliad, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw:
- dilyn y link i'r Ffurflen Microsoft isod ar gyfer y categori rydych chi’n ymgeisio amdano
- darllen y canllaw hwn
- darllen y rheolau cystadlu a'r telerau ac amodau
- llenwi’r ffurflen gais
- cyflwynwch eich ffurflen erbyn 5pm, 10 Tachwedd 2025.
Peidiwch ag anfon unrhyw beth heblaw eich ffurflen gais wedi'i chwblhau – ni fydd y beirniaid yn ystyried unrhyw ddeunyddiau ychwanegol fel lluniau neu fideos.
Dewiswch y ffurflen ar gyfer y categori hoffech chi geisio amdano:
Y beirniadu
Mae tair rhan i'r beirniadu:
- Bydd ein panel o feirniaid yn sgorio'r holl geisiadau ac yn cwrdd i gytuno ar restr fer o'r ceisiadau â'r sgôr uchaf
- Bydd y beirniaid yn ymweld â chi’n rhithwyr neu wyneb wrth wyneb rhwng canol mis Ionawr a chanol mis Chwefror
- Bydd y beirniaid wedyn yn cwrdd i ddewis y rhai a fydd yn cyrraedd y rownd derfynol ac enillwr pob categori.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod y seremoni wobrwyo yn haf 2026.
Gall y beirniaid symud eich cais i gategori gwahanol os ydyn nhw'n teimlo ei fod yn briodol.
Y rheolau cystadlu
Y rheolau cystadlu ar gyfer grwpiau, timau a sefydliadau yw:
Cyffredinol
- mae mynediad am ddim
- mae'r Gwobrau'n agored i dimau, prosiectau neu sefydliadau o'r sector gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar
- rhaid i'ch tîm, prosiect neu sefydliad fod wedi'i leoli ac yn gweithio yng Nghymru
- rhaid bod peth o'r gwaith y cyfeiriwch ato yn eich cais digwydd ers mis Tachwedd 2024
- ni fyddwn ni’n derbyn unrhyw geisiadau ar ôl y dyddiad a'r amser cau (5pm, 10 Tachwedd 2025).
Eich cais
- rhaid i chi ateb pob cwestiwn ar y ffurflen gais
- dim ond yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y ffurflen gais y bydd y beirniaid yn ei hystyried ac ni fyddan nhw’n ystyried deunydd ychwanegol, fel lluniau neu fideos
- rhaid i chi ddarparu manylion cyswllt llawn rhywun o’ch tîm, brosiect neu sefydliad er mwyn i ni allu gysylltu â chi
- rhaid i chi sicrhau eich bod yn gymwys i gyflwyno'r cais ar ran eich tîm, brosiect neu sefydliad
- dylech chi gyfeirio at y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir gan weithwyr yn y sectorau gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yn eich cais
- dylech chi ddangos sut mae peth neu'r holl waith rydych chi'n cyfeirio ato yn eich cais yn newydd ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau'r bobl yr ydych chi’n eu cefnogi
- efallai y byddwn ni’n defnyddio'r wybodaeth yn eich ffurflen gais i hyrwyddo'r Gwobrau
- byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais unwaith i'r beirniaid wneud penderfyniad
- ni allwn ddychwelyd eich ffurflen gais.
Y telerau ac amodau
Dylech chi wneud yn siŵr eich bod wedi darllen ac yn deall y telerau ac amodau canlynol cyn i chi anfon eich cais wedi'i gwblhau atom ni:
Cyhoeddusrwydd
Rhaid i'ch tîm, brosiect neu sefydliad gytuno y gallwn ni ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu ar eich ffurflen gais i:
- hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r Gwobrau
- rhannu ymarfer nodedig a helpu eraill i ddysgu yn y sectorau gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.
Byddwn ni’n creu ffilm fer o’r holl brosiectau fydd yn cyrraedd y rownd derfynol a fydd yn cael ei dangos yn y seremoni wobrwyo.
Bydd y ffilmio’n debygol o ddigwydd ym mis Mawrth a mis Ebrill 2026 a bydd disgwyl i'r holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol sicrhau bod pobl ar gael ar gyfer y ffilmio. Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn mwy o wybodaeth am y ffilmio ym mis Mawrth 2026.
Gall pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol dderbyn cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau yng Nghymru.
Beirniadu
Bydd ein panel beirniadu’n dewis y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol a'r enillwyr. Dim ond un enillydd fydd ym mhob categori.
Rhaid i aelodau'r panel beirniadu beidio â bod ag unrhyw gysylltiad â'r prosiectau sydd wedi ymgeisio ar gyfer y Gwobrau.
Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol ac ni fyddwn ni’n gohebu am eu penderfyniad.
Rhaid i brosiectau ar y rhestr fer fod ar gael i gyfarfod â'n beirniaid rhwng canol mis Ionawr a chanol mis Chwefror 2026.
Y seremoni a'r gwobrau
Bydd enillydd pob categori yn ennill tlws a bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael tystysgrif. Ni fydd unrhyw wobrau ariannol na chyfwerth.
Bydd pawb sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i fynychu seremoni wobrwyo'r Gwobrau, a fydd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd yn haf 2026. Os na all y sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol fynychu’r seremoni, bydd angen iddyn nhw roi gwybod i ni o flaen llaw a dweud wrthym ni pwy fydd yn derbyn y wobr neu’r dystysgrif ar eu rhan.
Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael gwybod faint o lefydd fydd ganddyn nhw yn y seremoni wobrwyo. Bydd unrhyw un sy'n mynychu'r seremoni yn gyfrifol am eu costau teithio a llety eu hunain.
Os byddwn ni’n darganfod bod ymgeisydd wedi torri'r rheolau – cyn neu ar ôl cyflwyno Gwobr – gall y beirniaid wahardd yr ymgeisydd. Os digwydd hyn, rhaid dychwelyd y tlws a'r dystysgrif atom ni ar unwaith.
Dyddiadau pwysig ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, 10 Tachwedd 2025 (ni fyddwn ni’n derbyn ceisiadau ar ôl y dyddiad cau)
Hysbysu'r rhai sy'n cyrraedd y rhestr fer: erbyn canol mis Ionawr 2026
Cyfarfodydd y beirniaid â’r rhai fydd yn cyrraedd y rhestr fer: canol mis Ionawr i ganol mis Chwefror 2026
Cyhoeddi enwau'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol: Mawrth 2026
Seremoni wobrwyo: haf 2026