Hoffech chi enwebu gweithiwr ar gyfer Gwobrau 2026? Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut
Pwy ellir gael ei enwebu
Mae'r Gwobrau ar gyfer gweithwyr yn agored i unrhyw weithiwr cyflogedig, wirfoddolwr neu brentis sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Gallan nhw weithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol neu gydweithredol, ac mewn unrhyw rôl. Gallen nhw, er enghraifft, weithio mewn cartref gofal, meithrinfa neu fel gweithiwr gofal cartref. Gallan nhw weithio gyda phlant, oedolion, teuluoedd neu ofalwyr.
Rydyn ni’n chwilio am weithwyr sydd nid yn unig yn cyflawni eu tasgau bob dydd, ond sy’n mynd y tu hwnt i ofyniad eu rôl ac sydd wir yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.
Disgwylir i bob gweithiwr sydd wedi'i enwebu am Wobr fodloni’r safonau ymddygiad ac ymarfer a nodir yn y Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol (y Côd).
Pwy all enwebu gweithiwr
Unrhyw un sy'n gyfarwydd â gwaith y gweithiwr ac sy'n gallu sicrhau eu bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl trwy'r gofal a’r cymorth y maen nhw'n eu darparu.
Gallwch enwebu gweithiwr ar gyfer gwobr os ydych chi’n:
- gweithio gyda, hyfforddi neu’n cyflogi'r person hoffech chi ei enwebu
- derbyn gofal neu gymorth gan y person hoffech chi ei enwebu
- ofalwr, yn ffrind neu’n aelod o deulu rhywun sy’n derbyn gofal a chymorth oddi wrth y person hoffech chi ei enwebu.
Ni allwch enwebu rhywun rydych chi'n perthyn yn agos iddyn nhw neu rywun rydych chi mewn perthynas bersonol â hwy.
Ni fyddwn ni’n derbyn enwebiadau ar gyfer mwy na dau aelod o staff o'r un gweithle neu sefydliad.
Sut ydw i’n enwebu gweithiwr
Mae'n hawdd enwebu gweithiwr. Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw:
- dilyn y linc i'r Ffurflen Microsoft ar gyfer y categori perthnasol isod
- darllen y canllaw hwn
- darllen y rheolau cystadlu a'r telerau ac amodau
- gofyn i'r gweithiwr am ei ganiatâd i'w enwebu
- llenwi’r ffurflen enwebu
- cyflwyno’ch ffurflen wedi’i chwblhau erbyn 5pm, 10 Tachwedd 2025.
Peidiwch ag anfon unrhyw beth heblaw eich ffurflen enwebu wedi'i chwblhau – ni fydd y beirniaid yn ystyried unrhyw ddeunyddiau ychwanegol fel lluniau neu fideos.
Dewiswch y ffurflen ar gyfer y categori perthnasol:
Y beirniadu
Bydd ein panel o feirniaid yn ystyried ac yn llunio rhestr fer o'r holl enwebiadau a dderbyniwn. Yna byddan nhw’n cwrdd ganol mis Rhagfyr i benderfynu ar y rhai a fydd yn cyrraedd y rownd derfynol.
Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi a'ch enwebai erbyn canol mis Ionawr 2026 os fyddan nhw wedi cyrraedd y rownd derfynol.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod seremoni’r Gwobrau yn haf 2026.
Y rheolau cystadlu
Y rheolau cystadlu ar gyfer gweithwyr ar gyfer Gwobrau 2026 yw:
Cyffredinol
- mae mynediad am ddim
- mae'r Gwobrau ar gyfer gweithwyr yn agored i unrhyw weithiwr gofal cyflogedig, wirfoddolwr neu brentis sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar
- rhaid i weithwyr a gaiff eu henwebu weithio yng Nghymru
- rhaid bod y gwaith rydych chi'n cyfeirio ato ar y ffurflen enwebu fod wedi cael ei wneud ers mis Tachwedd 2024
- ni allwch enwebu rhywun rydych chi'n perthyn yn agos iddo – er enghraifft, ni allwch enwebu'ch mab neu ferch – neu rywun rydych chi’n briod i neu mewn perthynas bersonol â hwy
- ni fyddwn ni’n derbyn enwebiadau ar gyfer mwy na dau aelod o staff o’r un gweithle neu sefydliad mewn unrhyw un categori
- rhaid i'r gweithiwr rydych chi’n ei enwebu weithio yn unol â'r safonau ymddygiad ac ymarfer a nodir yn y Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol
- ni fyddwn ni’n derbyn unrhyw enwebiadau ar ôl y dyddiad a'r amser cau (5pm, 10 Tachwedd 2025).
Eich enwebiad
- rhaid i chi ateb pob cwestiwn ar y ffurflen enwebu
- dim ond yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y ffurflen enwebu y bydd y beirniaid yn ei hystyried ac ni fyddan nhw’n ystyried unrhyw ddeunydd ychwanegol, fel lluniau neu fideos
- rhaid i chi ddarparu manylion cyswllt llawn ar eich cyfer chi a'r person rydych chi'n ei enwebu er mwyn i ni allu cysylltu â chi
- rhaid i chi sicrhau bod gennych chi ganiatâd y person rydych chi'n ei enwebu i'w henwebu cyn cyflwyno'r ffurflen
- efallai y byddwn ni’n defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni ar y ffurflen enwebu i hyrwyddo'r Gwobrau
- byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich enwebiad erbyn canol mis Ionawr 2026
- ni allwn ni ddychwelyd eich ffurflen enwebu atoch chi.
Telerau ac amodau
Dylech chi wneud yn siŵr eich bod chi a’r person rydych chi’n ei enwebu wedi darllen ac yn deall y telerau ac amodau cyn i chi anfon eich enwebiad atom ni:
Cyhoeddusrwydd
Rhaid i chi a'r person rydych chi'n ei enwebu gytuno y gallwn ni ddefnyddio'r wybodaeth ar y ffurflen enwebu i:
- hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r Gwobrau
- rhannu ymarfer nodedig o bwys a helpu eraill i ddysgu yn y sectorau gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.
Byddwn ni’n cynhyrchu ffilm fer o bawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol, a fydd yn cael ei dangos yn y seremoni wobrwyo.
Bydd y ffilmio’n debygol o ddigwydd rhwng Ionawr a Chwefror 2026, a bydd disgwyl i bawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol fod ar gael ar gyfer y ffilmio. Byddwn ni’n anfon mwy o wybodaeth am y ffilmio at y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol ym mis Ionawr 2026.
Gallai'r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol dderbyn cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau yng Nghymru.
Beirniadu
Bydd ein panel beirniadu yn creu rhestr fer. Bydd yr enillydd wedyn yn cael ei ddewis trwy bleidlais gyhoeddus. Dim ond un enillydd fydd ym mhob categori.
Rhaid i aelodau'r panel beirniadu beidio â bod ag unrhyw gysylltiad â'r gweithwyr gofal a enwebwyd ar gyfer y Gwobrau.
Bydd penderfyniad y beirniaid a chanlyniad y bleidlais gyhoeddus yn derfynol ac ni fyddwn ni’n gohebu am y canlyniadau hyn.
Y seremoni a'r gwobrau
Bydd enillydd pob categori yn cael tlws a bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael tystysgrif. Ni fydd unrhyw wobrau ariannol na chyfwerth.
Bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i fynychu seremoni wobrwyo’r Gwobrau yn haf 2026. Os na all y sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol fynychu’r seremoni, bydd angen iddyn nhw roi gwybod i ni o flaen llaw a dweud wrthym ni pwy fydd yn derbyn y wobr neu’r dystysgrif ar eu rhan.
Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael gwybod faint o lefydd a fydd ganddyn nhw yn y seremoni wobrwyo. Bydd unrhyw un sy'n mynychu'r seremoni yn gyfrifol am eu costau teithio a llety eu hunain.
Os fyddwn ni’n darganfod bod rhywun sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol neu eu henwebydd wedi torri'r rheolau – cyn neu ar ôl cyflwyno Gwobr – gall y beirniaid wahardd y gweithiwr. Os digwydd hyn, rhaid dychwelyd y tlws a'r dystysgrif atom ni ar unwaith.
Dyddiadau pwysig
Dyddiad cau: 10 Tachwedd 2025 – ni fyddwn ni’n derbyn unrhyw enwebiadau ar ôl y dyddiad cau
Cyhoeddi enwau'r gweithwyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol: canol Ionawr 2026
Ffilmio’r gweithwyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol: Ionawr i Chwefror 2026
Pleidlais gyhoeddus i ddewis enillwyr y gwobrau i weithwyr: Mawrth 2026
Seremoni wobrwyo: haf 2026