Jump to content
Pam nad ydw i’n synnu bod y rhan fwyaf o’r gofal sy’n cael ei roi yng Nghymru yn “ofal da”
Newyddion

Pam nad ydw i’n synnu bod y rhan fwyaf o’r gofal sy’n cael ei roi yng Nghymru yn “ofal da”

| Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr

Difyr oedd darllen canfyddiadau adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd ar safonau gofal a chymorth yng Nghymru a gyhoeddwyd y gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn gynharach y mis hwn.

Rwy’n croesawu canfyddiadau'r adroddiad, yn enwedig felly’r rhan ble mae’r Prif Arolygydd yn cyhoeddi bod “rhan fwyaf o’r gofal sy’n cael ei roi yng Nghymru yn ofal da, a bod bron i dri chwarter y cartrefi gofal a’r gwasanaethau cymorth cartref wedi cael eu sgorio’n ‘dda’ neu’n ‘ardderchog’ y llynedd”.

Dengys yr adroddiad bod 74% o gartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref yng Nghymru wedi cael eu sgorio’n ‘ardderchog’ neu’n ‘dda’ yn 2023-2024,a bod 77% o leoliadau gofal plant a chwarae wedi cael eu sgorio’n ‘dda’ neu’n ‘ardderchog’. Byddwn ni’n parhau i weithio â phartneriaid cenedlaethol gan gynnwys yr Arolygiaeth er mwyn cynorthwyo mwy o wasanaethau i wella.

Mae’r canfyddiadau’n cadarnhau’r hyn yr oeddem ni’n ei wybod yn barod, sef bod gennym ni weithlu sydd wedi ymroi i ddarparu gofal a chymorth o safon uchel i’r bobl fwyaf bregus mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru.

Efallai nad oeddech chi’n gwybod bod gennym ni restr o safonau ymddygiad cyhoeddedig y mae’n rhaid i weithwyr gofal eu dilyn er mwyn cael gweithio yn y sector yng Nghymru.

Yr enw a roddir ar y rheolau hyn yw codau ymarfer proffesiynol, ac yn y bôn maent yn gyfres o reolau y mae’n rhaid i weithwyr gofal yng Nghymru eu dilyn i wneud yn siŵr bod y bobl maen nhw’n gofalu amdanynt yn saff ac yn iach.

Mae’r rheolau yn cynnwys sicrhau bod gweithwyr gofal yn gwneud y canlynol:

  • cynorthwyo’r bobl y maen nhw’n gofalu amdanynt i ddweud a chyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw
  • parchu urddas, preifatrwydd, dewisiadau, diwylliant, iaith, hawliau, credoau, barn, a dymuniadau'r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt
  • cynorthwyo pobl i gadw’n ddiogel
  • ymddwyn mewn ffordd onest a dibynadwy
  • wedi cymhwyso i wneud y gwaith yn gywir.

Mae gennym ni ddau god ymarfer - un ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ac un ar gyfer cyflogwyr gofal cymdeithasol.

Rydym ni wrthi’n gwneud newidiadau i'r codau ymarfer ar hyn o bryd am nad ydynt wedi cael eu diweddaru ers 2017. Ers hynny mae’r nifer y gweithwyr gofal sydd ar ein cofrestr ni wedi codi o 11,000 i dros 60,000.

Y llynedd, siaradon ni a dros 300 o bobl sy’n gweithio ym maes gofal yng Nghymru i gael gwybod beth yw eu barn nhw ar ein codau ymarfer.

Dywedon nhw eu bod nhw eisiau i ni eu gwneud nhw’n fwy cryno ac yn fwy syml, er mwyn i’r gweithwyr gofal ddeall yr hyn sy’n ddisgwyliedig ohonynt yn well, ac er mwyn i’r unigolion sy’n derbyn gofal, ynghyd â’u teuluoedd, gael gwybod beth y gallan nhw ei ddisgwyl gan weithwyr gofal.

Felly dyna beth rydym ni wedi ei wneud. Does dim newidiadau wedi eu gwneud i'r ffordd rydym ni’n disgwyl i weithwyr gofal ymddwyn, ond rydym ni wedi newid y ffordd mae’r codau ymarfer yn cael eu geirio, er mwyn ceisio eu gwneud nhw’n fwy cryno, yn fwy syml, ac yn fwy clir.

Rydym ni eisiau i bobl sy’n gweithio yn y sector, ein partneriaid, pobl sy’n derbyn gofal a chymorth, gofalwyr di-dâl, y cyhoedd ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y maes roi gwybod i ni beth yw eu barn nhw am y newidiadau hyn i'r codau ymarfer.

Rydym ni’n awyddus iawn i gael clywed gan gynifer o wahanol leisiau â phosib, ac felly’n gofyn i chi edrych ar y codau ymarfer drafft a rhoi gwybod i ni beth yw eich barn.

Gallwch chi ddefnyddio'r wefan i leisio’ch barn: https://gofalcymdeithasol.cymru/ymgynghoriadau/newidiadau-codau-ymarfer-proffesiynol

Mae gennych chi tan 17 Rhagfyr i ddweud eich dweud.