Mae dementia yn gyflwr angheuol ac mae cefnogi pobl ar ddiwedd eu hoes i farw'n dda, neu fel y bydden nhw wedi dymuno, yn rhan o ofal da sy'n canolbwyntio ar y person
Beth yw marwolaeth dda?
Mae Strategaeth Diwedd Oes, yr Adran Iechyd, yn disgrifio ‘marwolaeth dda’ fel:
- Cael eich trin fel unigolyn
- Bod heb boen neu symptomau eraill
- Bod mewn lleoliadau cyfarwydd
- Bod yng nghwmni teulu agos a / neu ffrindiau
Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu nad yw hyn yr achos am lawer o bobl sy’n byw gyda dementia.
Yn yr oes sy’ ohoni, pryd mae dementia’n brif achos marwolaeth yn y DU, yn gyfrifol am 11.6 y cant o bob marwolaethau yn 2015, rhaid gwneud gwelliannau.
Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia yn datgan: “Rhaid i ni sicrhau bod y dewisiadau a mynediad at ofal llesiol a gofal diwedd oes yr un ar gyfer person sy’n byw gyda dementia â’i fod ar gyfer unrhyw un arall.”
Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia yn datgan: “Rhaid i ni sicrhau bod y dewisiadau a mynediad at ofal llesiol a gofal diwedd oes yr un ar gyfer person sy’n byw gyda dementia â’i fod ar gyfer unrhyw un arall.”
Nododd nifer o rwystrau i hyn yn adroddiad Marie Curie a’r Gymdeithas Alzheimer’s, Byw a Marw gyda Dementia yng Nghymru:
- diffyg cydnabyddiaeth o ddementia fel cyflwr terfynol
- cofnodi achosion marwolaeth yn anghywir
- cynlluniau aneffeithiol ar gyfer gofal ymlaen llaw, yn rhannol oherwydd diffyg diagnosis amserol.
Byw a Marw gyda Dementia yng Nghymru: Rhwystrau i Ofal (Saesneg yn unig)
Cynllunio gofal ymlaen llaw ar gyfer diwedd oes
Mae cynllunio gofal ymlaen llaw yn broses sy’n galluogi unigolion i wneud cynlluniau am eu gofal iechyd yn y dyfodol.
Mae cynlluniau gofal ymlaen llaw yn rhoi cyfarwyddyd i weithwyr iechyd proffesiynol pryd nad yw person mewn sefyllfa i wneud a/neu gyfathrebu eu dewisiadau gofal iechyd eu hunain.
Mae cynllunio gofal ymlaen llaw yn hanfodol ar gyfer unrhyw un gyda chyflwr sy’n cyfyngu ar eu hoes, ond yn arbennig ar gyfer pobl gyda dementia, gan fod natur dirywiol y cyflwr yn golygu y bydd y gall pobl golli capasiti i wneud eu penderfyniadau eu hunain.
Gallai cynllunio gofal ymlaen llaw feddwl sgwrs am opsiynau, canfod dymuniadau a dewisiadau a’r bobl i’w hymgynghori â nhw ar ran y person.
Cynllunio eich gofal ymlaen llaw (Saesneg yn unig)
Mae Deddf Galluedd Meddyliol yn caniatáu gwneud dymuniadau’r dyfodol ar ffurf cyfarwyddiadau ymlaen llaw neu Ewyllysau Byw.
Yng Nghymru a Lloegr, cyfarwyddyd ymlaen llaw yw’r unig ffordd gyfreithiol o fynegi eich ewyllys o ran gofal ac mae’n amodol ar y sefyllfa.
Cyngor gofal diwedd oes gan y GIG (Saesneg yn unig)
Mae’r Ddeddf hefyd yn cefnogi apwyntio Atwrnaiaeth Arhosol i weithredu ar ran y person pryd nad ydyn nhw’n medru gwneud eu penderfyniadau eu hunain.
Gall Atwrnaiaeth Arhosol gael ei apwyntio ar gyfer penderfyniadau iechyd a llesiant a / neu eiddo a materion ariannol.
Cyngor gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru am atwrnaiaeth arhosol
Mae’r adroddiad Byw a Marw gyda Dementia yng Nghymru hefyd yn amlygu mynediad anghyfartal i ofal lliniarol, gwasanaethau hospis ac ariannu, gan olygu wahaniaethu ac anghysondebau mewn safonau gofal.
Mae gofyn dull cydweithiol i gefnogi person ar ddiwedd ei oes, gyda gofalwyr teulu, staff gofal cymdeithasol, nyrsiau rhanbarthol, meddygon teulu,
Nyrsiau Admiral a Thimoedd Iechyd Meddwl Pobl Hŷn yn cyd-weithio er mwyn sicrhau marwolaeth dda.
Yn ychwanegol, mae’n rhaid i ni sicrhau bod pobl yn derbyn cymorth parhaus ar ôl i’r person farw, boed hynny gan ofalwr teulu neu weithiwr proffesiynol.
Gall sawl sefydliad rhoi’r gefnogaeth hon yr adeg hynny ac maen nhw’n cael eu rhestru isod.
Adnoddau defnyddiol
Dysgwch fwy am ofal diwedd oes.
Gofal diwedd oes i bobl gyda dementia – cwrs ar-lein gan Future Learn (Saesneg yn unig)
Cyngor am gefnogaeth profedigaeth gan Marie Curie (Saesneg yn unig)
Cyngor am gefnogaeth profedigaeth gan y Gymdeithas Alzheimer (Saesneg yn unig)
Eisiau eich adborth
Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.