Bydd y Cod Ymarfer Proffesiynol yn helpu unigolion sy'n derbyn gofal ac aelodau o'r cyhoedd i ddeall sut y dylai gweithiwr gofal cymdeithasol ymddwyn a sut y dylai cyflogwyr eu helpu i wneud eu gwaith yn dda.
Os oes gennych bryder ynghylch gweithiwr gofal:
- Darllenwch y Cod i ymgyfarwyddo â’r safonau
- Rhannwch eich pryderon â chyflogwr eich gweithiwr gofal a gofyn beth fydd yn ei wneud
- Os nad yw’r cyflogwr yn mynd i’r afael â’ch pryderon, gofynnwch am gopi o’u gweithdrefn gwyno i helpu i chi wybod beth i’w wneud nesaf
- Os yw’r gweithiwr wedi’i gofrestru gyda ni ac nid yw siarad â’r cyflogwr wedi helpu, Codwch eich pryder gyda ni a byddwn yn ateb ichi dros y ffôn neu drwy e-bost yn dibynnu ar eich dewis.
Os ydych chi’n pryderu am safon y gofal a ddarperir gan gwmni neu sefydliad, gallwch gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar 0300 7900 126 neu trwy e-bost agc@llyw.cymru.